Porth y Casul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dechrau tudalen newydd gyda "Mae lleoliad '''Porth y Casul''' wedi mynd ar goll, ond dywedir mai wyth milltir o Gaernarfon ydoedd. Cysylltir yr enw gyda'r traddodiad fod Santes Gwenffrewi wedi anfon casul (sef dilledyn clerigol) i Sant Beuno bob blwyddyn, a'i fod wedi cyrraedd yn wyrthiol yn y borth dan sylw, a hynny heb iddo wlychu o gwbl. Mae hyn hefyd yn gyfrifol am enw amgen ar y lle, sef Porta Sachlen (sef Porth Sych-len). Mae'r Athro Patrick Sims-Williams yn awgrymu y gallai Po..." |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.<ref>Patrick Sims-Williams, ''Buchedd Beuno. The Middle Welsh'' Life ''of St Beuno'' (Dulyn, 2018), tt.32, 64.</ref> | Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.<ref>Patrick Sims-Williams, ''Buchedd Beuno. The Middle Welsh'' Life ''of St Beuno'' (Dulyn, 2018), tt.32, 64.</ref> | ||
Roedd [[Eben Fardd]] o'r farn mai porthladd bychan ger [[Clynnog Fawr]] ei hun oedd Porth y Casul. Bu'n holi pobl yr ardal ond heb ganfod y lleoliad, meddai, ond dichon mai yn agos i [[Bachwen]] lle mae nant bychan yn cyrraedd y môr.<ref>Eben Fardd, ''Y Gwladgarwr'' (Cyf.VI, 1838) t.44</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Fersiwn yn ôl 16:37, 18 Ebrill 2025
Mae lleoliad Porth y Casul wedi mynd ar goll, ond dywedir mai wyth milltir o Gaernarfon ydoedd. Cysylltir yr enw gyda'r traddodiad fod Santes Gwenffrewi wedi anfon casul (sef dilledyn clerigol) i Sant Beuno bob blwyddyn, a'i fod wedi cyrraedd yn wyrthiol yn y borth dan sylw, a hynny heb iddo wlychu o gwbl. Mae hyn hefyd yn gyfrifol am enw amgen ar y lle, sef Porta Sachlen (sef Porth Sych-len). Mae'r Athro Patrick Sims-Williams yn awgrymu y gallai Porth Clynnog ger Aberdesach fod yn lleoliad posibl ar gyfer Porth y Casul.
Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.[1]
Roedd Eben Fardd o'r farn mai porthladd bychan ger Clynnog Fawr ei hun oedd Porth y Casul. Bu'n holi pobl yr ardal ond heb ganfod y lleoliad, meddai, ond dichon mai yn agos i Bachwen lle mae nant bychan yn cyrraedd y môr.[2]