Evan Richards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Roedd y '''Parch. Evan Richards''' yn ficer Llanwnda a Llanfaglan yn ystod y 1840au. Bu'n byw yn ei dŷ ei hun, sef Graeanfryn. Ysywaeth, tua diwedd 1843, dirywiodd ei iechyd meddwl i'r fath raddau fod rhaid iddo fynd i wallgofdy. Trefnodd Dr. Owen Owen Roberts, Bangor, iddo fynd i Haydock Lodge ger Newton-le-Willows. Roedd ynadon gogledd Cymru wedi honni fod y sefydliad hwnnw yn gallu ateb yr angen am seilam ar gyfer yr ardal (rhag iddynt orfod codi y..."
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y '''Parch. Evan Richards''' yn ficer [[Llanwnda]] a Llanfaglan yn  ystod y 1840au. Bu'n byw yn ei dŷ ei hun, sef [[Graeanfryn]]. Ysywaeth, tua diwedd 1843, dirywiodd ei iechyd meddwl i'r fath raddau fod rhaid iddo fynd i wallgofdy. Trefnodd Dr. Owen Owen Roberts, Bangor, iddo fynd i Haydock Lodge ger Newton-le-Willows. Roedd ynadon gogledd Cymru wedi honni fod y sefydliad hwnnw yn gallu ateb yr angen am seilam ar gyfer yr ardal (rhag iddynt orfod codi ysbyty meddwl eu hunain), a bod Mr Mott, y rheolwr, wedi bod yn un o is-gomisiynwyr Comisiwn Deddf y Tlodion.
Roedd y '''Parch. Evan Richards''' yn ficer [[Llanwnda]] a Llanfaglan yn  ystod y 1840au. Dyn o Lanilar, Sir Aberteifi ydoedd, a aned ym 1795. Bu'n byw yn mewn tŷ a rentiwyd, sef [[Graeanfryn]]. Ysywaeth, tua diwedd 1843, dirywiodd ei iechyd meddwl i'r fath raddau fod rhaid iddo fynd i wallgofdy. Trefnodd Dr. Owen Owen Roberts, Bangor, iddo fynd i Haydock Lodge ger Newton-le-Willows. Roedd ynadon gogledd Cymru wedi honni fod y sefydliad hwnnw yn gallu ateb yr angen am seilam ar gyfer yr ardal (rhag iddynt orfod codi ysbyty meddwl eu hunain), a bod Mr Mott, y rheolwr, wedi bod yn un o is-gomisiynwyr Comisiwn Deddf y Tlodion.
Aeth Dr Roberts â Mr Richards yno, ond sylwodd nad oedd ond un ar y staff meddygol a allai siarad Gymraeg, a threfnodd gyda Mr Mott y penodid dwy o nyrsys Cymraeg eu hiaith fel y gallai Mr Richards ac eraill gael sylw dyledus yn eu hiaith eu hunain. Ym 1844 roedd tua hanner cant o gleifion yno, ond ymhen dwy flynedd roedd dros 500, a'r ddwy Gymraes wedi hen ymadael. Roedd yr amodau wedi dirywio i'r fath raddau erbyn  diwedd 1845 fel yr aeth Dr Roberts ati i berswadio ffrindiau Mr Richards i'w symud o'r sefydliad a dod â fo adref. Cyrhaeddodd Mr Richards yn ôl adref  5 Ionawr 1846, ac roedd mewn cyflwr truenus. Roedd yn gwbl amlwg ei fod wedi cael ei gam-drin: "roedd yna brawf digamsyniol o anwybyddu gwarthus a thriniaeth greulon; roedd ei gorff yn gleisiau drosto, roedd ganddo greithiau a mannau gyda lliw drwg arnynt, bod un o fysedd ei draed wedi ei wasgu'n ddifrifol ac un o'i glustiau fel pe bai hi bron wedi ei rhwygo i ffwrdd; roedd ei ddillad yn hollol fudr a chwbl ffiaidd" (cyfieithiad o'r Saesneg).<ref>''NBorth Wales Chronicle'', 20.6.1846, t.3</ref>

Nid yw'n glir i ba raddau y gwellodd y Parch. Evan Richards, ond ail-ymgartrefodd yng Ngraeanfryn neu Maengwyn, Llanwnda, cyn symud yn y man i dŷ [[Cefn Hendre]] ar draws y caeau. Yno gydag ef oedd ei wraig, Jane Richards o Eglwys-bach, Sir Ddinbych, pan gymerwyd cyfrifiad 1851. Erbyn 1861 roedd Evan Richards wedi marw, ond Jane ei weddw'n ffermio 70 acer.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851 a 1861</ref>
Nid yw'n glir i ba raddau y gwellodd y Parch. Evan Richards, ond ail-ymgartrefodd yng Ngraeanfryn neu Maengwyn, Llanwnda, cyn symud yn y man i dŷ [[Cefn Hendre]] ar draws y caeau. Yno gydag ef oedd ei wraig, Jane Richards o Eglwys-fach, Sir Ddinbych, pan gymerwyd cyfrifiad 1851. Erbyn 1861 roedd Evan Richards wedi marw, ond Jane ei weddw'n ffermio 70 acer.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851 a 1861</ref>

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 19:18, 13 Mawrth 2025

Roedd y Parch. Evan Richards yn ficer Llanwnda a Llanfaglan yn ystod y 1840au. Dyn o Lanilar, Sir Aberteifi ydoedd, a aned ym 1795. Bu'n byw yn mewn tŷ a rentiwyd, sef Graeanfryn. Ysywaeth, tua diwedd 1843, dirywiodd ei iechyd meddwl i'r fath raddau fod rhaid iddo fynd i wallgofdy. Trefnodd Dr. Owen Owen Roberts, Bangor, iddo fynd i Haydock Lodge ger Newton-le-Willows. Roedd ynadon gogledd Cymru wedi honni fod y sefydliad hwnnw yn gallu ateb yr angen am seilam ar gyfer yr ardal (rhag iddynt orfod codi ysbyty meddwl eu hunain), a bod Mr Mott, y rheolwr, wedi bod yn un o is-gomisiynwyr Comisiwn Deddf y Tlodion. Aeth Dr Roberts â Mr Richards yno, ond sylwodd nad oedd ond un ar y staff meddygol a allai siarad Gymraeg, a threfnodd gyda Mr Mott y penodid dwy o nyrsys Cymraeg eu hiaith fel y gallai Mr Richards ac eraill gael sylw dyledus yn eu hiaith eu hunain. Ym 1844 roedd tua hanner cant o gleifion yno, ond ymhen dwy flynedd roedd dros 500, a'r ddwy Gymraes wedi hen ymadael. Roedd yr amodau wedi dirywio i'r fath raddau erbyn diwedd 1845 fel yr aeth Dr Roberts ati i berswadio ffrindiau Mr Richards i'w symud o'r sefydliad a dod â fo adref. Cyrhaeddodd Mr Richards yn ôl adref 5 Ionawr 1846, ac roedd mewn cyflwr truenus. Roedd yn gwbl amlwg ei fod wedi cael ei gam-drin: "roedd yna brawf digamsyniol o anwybyddu gwarthus a thriniaeth greulon; roedd ei gorff yn gleisiau drosto, roedd ganddo greithiau a mannau gyda lliw drwg arnynt, bod un o fysedd ei draed wedi ei wasgu'n ddifrifol ac un o'i glustiau fel pe bai hi bron wedi ei rhwygo i ffwrdd; roedd ei ddillad yn hollol fudr a chwbl ffiaidd" (cyfieithiad o'r Saesneg).[1]

Nid yw'n glir i ba raddau y gwellodd y Parch. Evan Richards, ond ail-ymgartrefodd yng Ngraeanfryn neu Maengwyn, Llanwnda, cyn symud yn y man i dŷ Cefn Hendre ar draws y caeau. Yno gydag ef oedd ei wraig, Jane Richards o Eglwys-fach, Sir Ddinbych, pan gymerwyd cyfrifiad 1851. Erbyn 1861 roedd Evan Richards wedi marw, ond Jane ei weddw'n ffermio 70 acer.[2]

Cyfeiriadau

  1. NBorth Wales Chronicle, 20.6.1846, t.3
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851 a 1861