Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 92: Llinell 92:
'''Y drydedd ysgol wyf yn ei gofio''' cyn agor y "College" mawr yn Ysgol yr Hall Newydd (Farchnadfa) '''oedd Seler Siop Olwen (heddiw Waterloo House).''' Hen wr goes bren gadwai honno, a chofiaf am y plant yn eistedd ar y steps, arweiniai o'r Seler i'r ffordd fawr.
'''Y drydedd ysgol wyf yn ei gofio''' cyn agor y "College" mawr yn Ysgol yr Hall Newydd (Farchnadfa) '''oedd Seler Siop Olwen (heddiw Waterloo House).''' Hen wr goes bren gadwai honno, a chofiaf am y plant yn eistedd ar y steps, arweiniai o'r Seler i'r ffordd fawr.


Yn y cyfnod yma daeth newid go fawr ar bethau ym Mhen-y-groes. Daeth llu o ''navies'' i'r ardal gan ddweud "pob bryn a ostyngir a phob pant a godir: rhaid gwastadhau lle i'r Rheilffordd i gario march lô i Afon Wen,  a dyddiau diddorol Coach fawr Daniel Parry (y Four in Hand) a redai o Gaernarfon i Porthmadog i ddirwyn i ben, a'i rhifo ymhlith y pethau a fu, ac oes ffordd Haearn Bach, oedd yn cludo llechi Dyffryn Nantlle trwy ganol pentref Pen-y-groes i beidio â bod yn fuan wedyn.
Yn y cyfnod yma daeth newid go fawr ar bethau ym Mhen-y-groes. Daeth llu o ''navies'' i'r ardal gan ddweud "pob bryn a ostyngir a phob pant a godir: rhaid gwastadhau lle i'r Rheilffordd i gario march t&aoirc; i Afon Wen,  a dyddiau diddorol Coach fawr Daniel Parry (y ''Four in Hand'') a redai o Gaernarfon i Porthmadog i ddirwyn i ben, a'i rhifo ymhlith y pethau a fu, ac oes ffordd Haearn Bach, oedd yn cludo llechi Dyffryn Nantlle trwy ganol pentref Pen-y-groes i beidio â bod yn fuan wedyn.


Wedi agor y Railway i Afon Wen daeth Pen-y-groes yn lle canolig, cyfleus, a bu cwrs o adeiladu yma.  A darfu i Etifeddiaeth Brynkir adeiladu Neuadd farchnad yma er mwyn cynnal marchnad yn y lle ar y Sadwrn.  Pedwar mur cerrig, wyth ffenestr, tri drws a dau dwll du (Heddiw yn Memorial Hall, Pen-y-groes).  Trefnwyd ychydig fyrddau at wasanaeth y Masnachdy o'i mewn.  
Wedi agor y Railway i Afon Wen daeth Pen-y-groes yn lle canolig, cyfleus, a bu cwrs o adeiladu yma.  A darfu i Etifeddiaeth Brynkir adeiladu Neuadd farchnad yma er mwyn cynnal marchnad yn y lle ar y Sadwrn.  Pedwar mur cerrig, wyth ffenestr, tri drws a dau dwll du (Heddiw yn Memorial Hall, Pen-y-groes).  Trefnwyd ychydig fyrddau at wasanaeth y Masnachdy o'i mewn.  

Fersiwn yn ôl 17:25, 21 Ionawr 2018



Hanes

Hen Atgofion am Ben-y-groes gan Owen Owen, Cartrefle, Tanrallt. [Daeth i Ben-y-groes yn nechrau Awst 1862.]

I gael cip ar bentref Pen-y-groes pan oeddwn yn hogyn, awn am dro at:

Yr Hen Dyrpaig, Tolldy ar y brif ffordd (Tal-y-sarn), yn cael ei gadw gan hen wr a adwaenwn wrth yr enw Sion Dafydd y Tyrpaig. Gyferbyn â'r porth yr oedd dau gilbost mawr o lechfaen, a giat fawr led y ffordd, ac oddeutu iddynt droell i'r person unigol fynd trwodd. Telir toll ar bob march a cheffyl drol âi trwodd i godi arian i drwsio y ffordd.

Adeiladwyd yn 1867 dy tafarn gan J. Thomas y Park, a galwyd efo "Prince Llewelyn".

Y lle cyntaf wedyn yw Llwyn y Fuches, buarth fferm bwysig i Robert Huws, "Stack Head Inn" (heddiw Muriau Stores).Nid oes dim yn aros heddiw yn y lle yma ond ychydig o'r coed, ac fe fyddent yn hel y gwartheg oddi tanynt yn yr haf i'w godro. (Y mae yr hen garreg farch i'w gweld heddiw yn Llwyn y Fuches.GW)

Adeiladwyd Llwyn Onn gan Doctor John Williams yn 1869. (Gwelais fedd y Doctor ym mynwent Capel Helyg. GW). Yr oedd Llyn Hwyaid y fferm Llwyn y Fuches yn y fan lle y mae y fynedfa i Llwyn Onn (Nythfa) a thy Hugh Williams a'r gadlas, lle y saif y tri thy cyntaf rhyngoch a Capel Wesla.

Adeiladwyd y tai o Capel Wesla hyd at y Banc yn 1865-1867, y pump cyntaf gan Richard G. Pritchard, Garreg Wen a H.G. Pritchard, yna Robert Evans; Robert Williams a John Roberts. Roedd cae bychan oddi yno i brif-ffordd Llanllyfni i Gaernarfon, lle mae y Banc a'r Post Office heddiw. (Yr Hen Post Office oedd hwn. Y maent wedi adeiladu un newydd ar ol hynny. GW). Cawsant eu hadeiladu yn dy ac yn siop yn 1867 gan Owen Roberts.

Adeiladau Ty Dr Ellis, Ivy House, Water Street yn 1836, gan Robert Williams; Goat Hotel gan Methusalem Jones yn 1866; Victoria Hotel gan H.J. Thomas yn 1867; Tai ochor uchaf i'r Post, 1865-1866; Prince of Wales gan J. Griffith, 1867; County Road, R.G. Pritchard a Hugh Pritchard, 1864; Robert Ellis, 1865 y chwech cyntaf. Water Street, 1862, W. Herbert Jones a Owen Roberts, 1867. Treddafydd Robert Williams 1835 "Sign Horse" Treddafydd a'r pedwar ty Evan Williams, 1835, Owen Roberts y Banc, 1870.

Yn y lle saif drws y Post Office (yr Hen Bost Office) yr oedd pistyll y pentref, "Pistyll yr Inn", gwal o gerrig yn hanner cylch o'i amgylch, a rhyw chwech i saith troedfedd i mewn o'r brif-ffordd.

Nid oedd ar yr ochr chwith i'r ffordd o'r Tyrpaig i Ben-y-groes ond un ty,Hen Dy ffarm. Tynyweirglodd a chwalwyd gan Hugh Williams yn 1876, a chodwyd y pedwar ty sydd ar y chwith ar ei safle. Dilynai y ffordd Haearn Bach, a'r giatiau gwynion gan y ffordd. Gyferbyn a thy y diweddar Mrs Powell, County Road; yr oedd adwy yn y ffordd haearn bach, ac adwy a llidiart yn arwain i'r tir a alwyd yn "Cae yr Inn", safle pob syrcas, a phob sioe, a (man) cynnal y Cymanfaoedd.

Lley saif garage a thy a Siop Williams (Chemist heddiw) yr oedd sidings a gwely y ffordd haearn bach yn mynd i Gaernarfon.

Ar dalcen ty Williams (Dr. Owen, Dr. Jones a Dr. Ellis heddiw) yr oedd bwthyn bychan unto lle y trigai Evan a Sian Williams, perchennog y tai yma hyd at Ivy House, Water Street. Ar ochr ty Evan Williams yr oedd sied goed, a ffordd Haearn Bach yn arwain iddi. Dyma y fan y cludid cerrig (Ragia) o'r chwarel i wneud llechi ysgrifennu i ysgolion, diwydiant prysur y pryd hwnnw, yn ffactri Ty Gwyn, Engine y Doctor a Phont-y-Cim. Yr oedd yr hen sied yn fan cynnull cyfleus i Bentref Pen-y-groes yn yr hen amser, ac adnabyddid y lle tan yr enw 'Cwt Straeon'. Chwalwyd, ac adeiladwyd ty a siop Richard Williams, Butcher (Siop Chemist heddiw) gan ei dad yn 1874.

Yr oedd oddi yno i Siop Isa wedi ei hadeiladu gan un o'r enw Robert Williams yn 1836. (Hwn a adeiladodd Treddafydd hefyd).

Adeiladwyd siop Williams Gerlan yn 1844. (Siop Brian oedd hon ar y cyntaf) a thai oddi yno i lawr hyd siop ei chwaer, Miss Evans, rhwng 1863 a 1867 - Eldon House.

Stryd yr Wyddfa

Darfu i Etifeddiaeth Brynkir ffensio o'r Victoria i'r Goat, ffordd Snowdon St., a dim ond hynny. Buan yr oedd y polion wedi pydru a'r weirs ar chwalfa, a'r lle oedd i fod yn ffordd (Snowdon St.) yn domen o fwd, a'r lle yn ofnadwy pan yn gwlawio, fel nad oedd yn bosibl ei thramwy. (Snowdon Street oedd hon).

Wedi adeiladu y Farchnadfa (Hall newydd: Neuadd Goffa heddiw) cynhaliwyd 'Penny Readings' ynddi o dan arweiniad William Williams, Victoria Hotel, er mwyn cael arian er gwneud y ffordd. John Griffith ddarfu adeiladu yr ochor arall gyntaf y pryd hwnnw yn 'Prince of Wales' yn 1867.

Yn fuan ar ol agor y Railway i Afon Wen yr adeiladwyd 'tai y Station' i gyd.


Y tai o'r Post i fyny, hyd at dai William Parry Ceision, y deuddeg ty cyntaf o dai William Parry, gan Richard Williams, Teiliwr, yn 1867. (Bethel Terrace heddiw).

Ffrwd Garreg Wen a'r Brynkir Arms yn 1837.

Treddafydd yn cyrraedd hyd yr hen Cross Street, wedi ei hadeiladu gan Robert Williams (Teiliwr?) yn 1836, ar brydles am £10 ground rent.

Rhwng Cross Street a Chapel Soar roedd tri thy a alwyd Tan-y-ffordd a rhediad ar ffordd i lawr at yr hen dai wedi ei balmantu â cherrig. Adeiladwyd darn newydd yn ei ffrynt yn 1868 i'w gwneud fel y mae heddiw. Y mae ffenestr gweithdy William Roberts y Clocsiwr yn aros yn nhalcen hen dy Huw Larson y Saer. Hen lanc o saer coed a'i weithdy ar yr hen ffordd, yn nghefn Siop Beehive, dyn hynod ar lawer cyfri. Cofiaf amdano yn gwneud beic bren ac yn reidio o Ben-y-groes i Lanllyfni. Aeth oddi yma i Awstralia i chwilio am aur yng ngwely rhyw afon yno. Byddai ei weithdy yn lle diddorol iawn yn hirnos gaeaf. Honai y gallai olrhain rhyw fodau i'r gweithdy, heblaw dynion. Yr oedd ei weithdy yn weithdy, cegin ac ystafell gysgu. Dyna ei unig gartref, a'i bartner oedd mwnci castiog yn rhwym wrth rai o'r coed yn yr iard. Byddem yn aflonyddu arno, gan ofalu cadw hyd y chain i ffwrdd.

O Capel Soar i'r ffordd sydd yn arwain i'r Station yr oedd amryw o hen fythynnod wedi eu codi heb unrhyw drefn na rheol. Yr oedd un a enwyd "Y Gegin" a'i wyneb at Dreddafydd, un arall, y "Castle" a'i dalcen i'r ffordd. Cofiaf am David Roberts, taid D.J. Roberts, Beehive, yn eu chwalu ac yn adeiladu y tri thy presennol yn 1866. Ty arall oedd yno yn wynebu at Llanllyfni, o'r enw Tyn-yr-ardd, cartref tad William Jones, Glan Llyfnwy. (Yr hen fythynnod uchod oedd y rhai cyntaf a adeiladwyd yn Pen-y-groes, yn ol hen fap a welais yng Nghaernarfon, heblaw y rhai yn Llwyn y fuches, am y flwyddyn 1829. G.W.)

Trown i gyfeiriad y Station. Yn iard yr Efail Uchaf yr oedd tri ty, dau dy dwbl isel, cegin a siambr, ar y trydydd a llofft arno. Galwem ef yn Ty Doli [ Felly galwyd Allt Doli]. A gefail William Dafydd yn gwynebu am yr Efail.

Nid oedd yr un ty wedi hynny nes cyrraedd Gafael-Lwyd Bach, neu fferm Tan-y-Bryn. Clawdd drain uchel oedd ar y llaw dde, a chlawdd pridd yr ochr arall.

Yr oedd yr hen ffordd o Dal-y-sarn, heibio Pant-du, ac i Bontllyfni, yn croesi Railway a thrwy gwr iard Pritchard Bros. Y Railway a wnaeth y ffordd ar y dde, a thros y Bont Station bresennol.

Y Prince of Wales oedd y ty nesaf am flynyddoedd lawer. Tir oedd y lle y saif West End yn awr. Yr oedd bryn o'r enw "Bryn Herbert" (Cutting heddiw). Cariwyd ef i ffwrdd i wneud ffordd haearn Nantlle. Gwnaethasant ffordd haearn trwy (lle y mae C.W.S. y ffermwyr heddiw) trwy y llain tir, sydd cyd-rhwng y ddwy ffordd gan godi i lefel tai West End. Byddwn yn galw yn aml i weled navies yn cario i ffwrdd y Bryn (cutting heddiw)

Lle pwysig yn hanes Pen-y-groes oedd y Stag's Head Inn. Roedd pumb o weision yno, a Huw Roberts, y ddau fab ar y fferm, a dwy neu dair o forwynion bob amser. Pump o Borthmyn bron bob amser o gwmpas y ty. A phob cerbyd yn aros am yr Inn i gael llith i'r cyffylau, a phob ceffyl yn aros yn yr Inn i gael llith i'r ceffylau, a Coach Daniel, oedd yn rhedeg o Gaernarfon i Porthmadog.

Pan yn sefyll wrth ddrws fy nghartref, cawsech weld y runs y ffordd Haearn Bach, yn pasio o'r chwaerli i Caernarfon. Ar draws y ffordd oedd dwy goeden fawr o flaen ty (Dr Ellis heddiw) wedi tyfu yn bont fawr dros y ffordd, Warehouse y Railway ar y dde (wedi hynny Iard Pitar, masnachwr glo). (Lôn Pitar heddiw).


Addysg

Addysg Ddyddiol ym Mhen-y-groes pan oeddwn yn hogyn (Owen Owen, Cartrefle, Tanrallt)

Deuthum gyntaf i Ben-y-groes yn nechrau Awst 1862. Trigai fy rhieni yn Water Street, y drws nesaf i "Ivy House" - yr ochr isaf : "I fyd amser i fodoli." Y drws nesaf inni trigai brawd a chwaer o'r enw Thomas ac Ellen Jones. Yr unig bostman cyd-rhwng Pen-y-groes a Drws-y-Coed oedd y brawd. Yna, yr ochr isaf iddynt hwy yr oedd Croglofft a dwy dd&oucirc; yn cau ar y gwagle oddi tani, oedd i'w defnyddio yn fynedfa i gefn yr holl o'r tai o "Ivy House" i lawr Water Street, Pen-y-groes.

Yn y groglofft yma trigai hen wr gyda'i ferch. Adwaenwn ef wrth yr enw Thomas Jones y Cobler: hen wr bychan o gorff, pryd tywyll o groen, gwisgai spectol a ffedog ledr a blew oamgylch ei wyneb o glust i glust. Byddai yn darlithio yn aml ar ddirwest, bnawn Sul, yn yr Entry a mynychai Capel Soar.

Yn yr hen groglofft yma y cefais i y syniad cyntaf am unrhyw fath o ysgol ddyddiol, yn cael ei chadw gan ferch yr hen gobler (yn Water StreetO. Yr oeddwn i yn rhy fychan i fynd i'r ysgol yn yr hen lofft, ond cofiaf yn dda yr ymlwybrwn o gwmpas trigolion y llofft, dan yr argraff ei fod yn lle go bwysig. Credaf y byddai yn ceisio gan yr ychydig fechgyn fyddai yno gael rhyw gychwyn ar ddarllen a rhifyddiaeth. Yr wyf yn meddwl na fyddai yno ddim yn y prydnawn ond ceisio cael cychwyn ar y genethod gyda gweu a gwnio a rhywbeth a alwent, os wyf yn cofio yn iawn, yn sampler.

Mesurai yr hen lofft rhyw 8 llath o hyd ac oddeutu 8 droedfedd o led. A rhaid oedd i'r hen lofft fod yn ystafell cysgu, gweithdy, cegin a llofft.

Cadwai ysgol, cyn dod i lawr i'r Hen Lofft, yn y ty lle y mae y diweddar Mr Thomas W. Griffith yn trigiannu ym Methel Terrace. (Hon oedd yr ysgol gyntaf o'i bath ym Mhen-y-groes (oddeutu 1857).

Y drydedd ysgol wyf yn ei gofio cyn agor y "College" mawr yn Ysgol yr Hall Newydd (Farchnadfa) oedd Seler Siop Olwen (heddiw Waterloo House). Hen wr goes bren gadwai honno, a chofiaf am y plant yn eistedd ar y steps, arweiniai o'r Seler i'r ffordd fawr.

Yn y cyfnod yma daeth newid go fawr ar bethau ym Mhen-y-groes. Daeth llu o navies i'r ardal gan ddweud "pob bryn a ostyngir a phob pant a godir: rhaid gwastadhau lle i'r Rheilffordd i gario march t&aoirc; i Afon Wen, a dyddiau diddorol Coach fawr Daniel Parry (y Four in Hand) a redai o Gaernarfon i Porthmadog i ddirwyn i ben, a'i rhifo ymhlith y pethau a fu, ac oes ffordd Haearn Bach, oedd yn cludo llechi Dyffryn Nantlle trwy ganol pentref Pen-y-groes i beidio â bod yn fuan wedyn.

Wedi agor y Railway i Afon Wen daeth Pen-y-groes yn lle canolig, cyfleus, a bu cwrs o adeiladu yma. A darfu i Etifeddiaeth Brynkir adeiladu Neuadd farchnad yma er mwyn cynnal marchnad yn y lle ar y Sadwrn. Pedwar mur cerrig, wyth ffenestr, tri drws a dau dwll du (Heddiw yn Memorial Hall, Pen-y-groes). Trefnwyd ychydig fyrddau at wasanaeth y Masnachdy o'i mewn.

A chan nad oedd o unrhyw wasanaeth ar y Sadwrn darfu i hen wr, adwaenem wrth yr enw William Jones y Scwl, ddechrau cadw ysgol ynddi, a phob plentyn i ofalu am ei daliad o geiniog yr wythnos bob bore Llun, a dyna yr ysgol yr euthum i gyntaf i geisio dysgu bod un ac un yn gwneud dau, a dau a dau yn bedwar.

Dim math o fainc, stô na chadair, dim ond hen fyrddau'r farchnad ar gyfer y llechau ["a'r copi"] a rhaid oedd prynu popeth angenrheidiol i fynd i'r ysgol. Y llechen a'r garreg nadd oedd fy angen i yr wythnos gyntaf. Ond daeth gorchymyn fod ymorol am botel inc, ysgrif-bin a chopi ceiniog o Siop G. Lewis, llyfrwerthwr, at yr wythnos ddilynol.

Cofiaf yn dda y bore Llun hwnnw, daeth yr amser ysgol a minnau yn brin i wneud y "full Kit" i fyny. Ac meddai Mam: "Rhed dros y ffordd at Ellen Jones (wedi hynny mam i Herbert Jones a Thomas Herbert Jones) i edrych a gei un ganddi." Croesais y ffordd, curais y ddô a agordd Ellen Jones. Dywedais fy neges a'm cwyn, dan orchymyn fy mam. Gwenodd a chiliodd i'r ty. (Un garedig iawn oedd Ellen Jones. Diolch am gychwyn fy nhaith yn ei hymyl hi).

Yn y man agorodd drws y parlwr a daeth Mr Owen Parry ataf. (Hwn oedd Clerc cyntaf y Railway Station ym Mhen-y-groes a'r clerc diweddaf ar y ffordd Haearn Bach ym Mhen-y-groes). Yn siriol estynnodd imi flwch bychan, a chwe ysgrifbin newydd melyn crand ynddo. Begio un a chael chwech, a dyna ddiolch, a rhedeg, a dyna lawenydd dydd y pethau bychain. A dyna weithred nad a yn angof tra bo nyddiau i yn bod. Collais Mr Owen Parry ond deallais mai i Langefni yr aeth o Ben-y-groes. Mae yn siwr ei fod yn y Nefoedd bellach. Caredigrwydd i un o'r rhai bychan hyn ydyw y briffordd sydd yn arwain i "Grand Entrance y Nefoedd".

Gwialen ni welais yn ysgol yr Hall Pen-y-groes, na churo na tharo. Cosb trosedd gyffredin fyddai sefyll ar ei draed ar ben un o'r hen fyrddau cig, a throsedd go fawr: hanner diwrnod yn y twll du.

Wedi ychydig fisoedd, pan cyd-rhwng 7 ac 8 oed cefais waith i gario Post i chwarel Tanrallt, a dyn ddiedd imi ar ysgol yr Hall, Pen-y-groes. Credaf i'r hen wr William Jones gael ei alw gartref oddi wrth ei waith, ei adfyd a'i ychydig geiniogau, gan blant Pen-y-groes yn hen ysgol yr Hall. Gadawaf ef gan obeithio y caiff fwynhau gwynfyd.

Daeth dyn ieuanc o'r enw Rowlands i gario yr ysgol ymlaen hyd nes y daeth y Bwrdd Ysgol ac yr adeiladwyd y rhannau cyntaf o Ysgol y Cyngor Pen-y-groes. Cofiaf yn dda fynd iddi y bore cyntaf (Ionawr 1af 1873) yr agorwyd hi, ond byr fu y cyfnod nad oeddwn yn ôl yn y chwarel.

Yr ysgolfeistr cyntaf dan y Bwrdd Ysgol oedd un Mr Thomas Williams: dyn bychan, glâ goleu o bryd, dyn caredig, 'ysgolfeistr da', ymdrechgar.

Meistres y Babanod oedd Miss Nicolas; Athrawes Miss C. Williams, chwaer yr ysgolfeistr, hefyd bachgen tal pryd tywyll o'r enw Mr Roberts, a John R. Griffith, Garreg Wen, a Miss Laura Jones, Bethel Terrace.

Dechreuodd Mr Roberts gadw ysgol yn yr Hall Newydd yn y flwyddyn 1871, yn bump ar hugain oed.

Cyfartaledd y plant hyd ddiwedd 1871 oedd 80. Talent 2 geiniog yr wythnoas erbyn hyn. A chaniatau iddynt dalu i gyd, nid oedd hynny ond 13/4c yr wythnos. Cadwodd yr ysgol yr Hall i fynd hyd agoriad Ysgol y Cyngor.

Yn Mawrth 1af 1871 etholwyd y Bwrdd Ysgol cyntaf ym Mhlwyf Llanllyfni. Cadeirydd: Parch. Wm. Hughes Coedmadog. Is-gadeirydd: Parch. Wm. Hughes, 'Rector Llanllyfni', Dr John Williams, Llwyn Onn, Dr Evan Roberts, Sea Vew (Gwyddfor), Hugh Jones Gelli Bach. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd Ebrill 24 1871 pasiwyd i anfon at awdurdodau addysg yn Llundain. etc. etc. [Daw'r ysgrif i ben yn y fan hon.]