Robert Gwyneddon Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dechrau tudalen newydd gyda "Roedd '''Robert Gwyneddon Davies''' (1870-1928) yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol ''Y Goleuad''. Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rha..." |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Robert Gwyneddon Davies''' (1870-1928) yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol ''Y Goleuad''. | Roedd '''Robert Gwyneddon Davies''' (1870-1928) yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol ''Y Goleuad''. | ||
Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.<ref>''Y Bywgraffiadur ar-lein'', erthygl am ei dad [ | Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.<ref>''Y Bywgraffiadur ar-lein'', erthygl am ei dad [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1832]</ref> Roedd hefyd yn ynad heddwch, yn aelod o'r Cyngor Sir, cadeirydd y Pwyllgor Addysg, ac yn ei dro'n Uchel Siryf y sir. | ||
Gwraig iddo oedd y gantores a'r arbenigwraig ar alawon gwerin Cymreig, [[Grace Gwyneddon Davies]], (1878-1944). | Gwraig iddo oedd y gantores a'r arbenigwraig ar alawon gwerin Cymreig, [[Grace Gwyneddon Davies]], (1878-1944). Priododd y ddau ym 1909 yng Nghapel Charing Cross, Llundain, a hynny ar ôl cwrdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906. Ysywaeth, ni chafodd y cwpl blant. Sefydlodd y cwpl yn Graeanfryn, [[Llanwnda]], gan ddod yn aelodau amlwg a gweithgar o'r capel lleol, [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]]. Daeth Graeanfryn yn ganolfan ddiwylliannol i'r ardal, a chynhelid nosweithiau cerddorol yno'n rheolaidd. Atyniad pellach oedd yr ardd nodedig. Yr oedd [[David Lloyd George]] a gwleidyddion amlwg eraill yn ymwelwyr cyson â Graeanfryn.<ref>''Y Bywgraffiadur ar-lein'', erthygl am Grace Gwyneddon Davies [https://bywgraffiadur.cymru/article/c12-DAVI-GWY-1878]</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 18:40, 14 Hydref 2024
Roedd Robert Gwyneddon Davies (1870-1928) yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol Y Goleuad.
Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.[1] Roedd hefyd yn ynad heddwch, yn aelod o'r Cyngor Sir, cadeirydd y Pwyllgor Addysg, ac yn ei dro'n Uchel Siryf y sir.
Gwraig iddo oedd y gantores a'r arbenigwraig ar alawon gwerin Cymreig, Grace Gwyneddon Davies, (1878-1944). Priododd y ddau ym 1909 yng Nghapel Charing Cross, Llundain, a hynny ar ôl cwrdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906. Ysywaeth, ni chafodd y cwpl blant. Sefydlodd y cwpl yn Graeanfryn, Llanwnda, gan ddod yn aelodau amlwg a gweithgar o'r capel lleol, Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda. Daeth Graeanfryn yn ganolfan ddiwylliannol i'r ardal, a chynhelid nosweithiau cerddorol yno'n rheolaidd. Atyniad pellach oedd yr ardd nodedig. Yr oedd David Lloyd George a gwleidyddion amlwg eraill yn ymwelwyr cyson â Graeanfryn.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma