John Jones (Sion Caeronwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caer...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau [[Mynydd Mawr]] ym mhlwyf [[Llandwrog]].  
Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau [[Mynydd Mawr]] ym mhlwyf [[Llandwrog]].  


Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, ac yn arbennig am gyfansoddi cerddi duchan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, meddid nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, Corff y Gainc a gyhoeddwyd tua 1810.
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] i gyfarfod ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn sefydlu trefn o gyfarfodydd, neu seiadau, i feirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion" fel y gelwid hwy.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, yn arbennig cyfansoddi cerddi dychan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, dywedir nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, ''Corff y Gainc'', a gyhoeddwyd tua 1810.


Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur.
Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn Y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur.


Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r dreth godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn [[Castell Caeronwy|Gastell Caeronwy]] ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn oedd gerllaw.<ref> W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2</ref>
Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r rhent godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn [[Castell Caeronwy|Gastell Caeronwy]] ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn a oedd gerllaw.<ref> W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2</ref>


==Cyfeiriadau=
==Cyfeiriadau=
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:55, 14 Mehefin 2024

Er bod John Jones, neu Sion Caeronwy, bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau Mynydd Mawr ym mhlwyf Llandwrog.

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri i gyfarfod ym Metws Garmon er mwyn sefydlu trefn o gyfarfodydd, neu seiadau, i feirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion" fel y gelwid hwy.[1] Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, yn arbennig cyfansoddi cerddi dychan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, dywedir nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, Corff y Gainc, a gyhoeddwyd tua 1810.

Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn Y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur.

Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r rhent godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn Gastell Caeronwy ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn a oedd gerllaw.[2]

=Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  2. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2