Wernlas Ddu a Wernlas Wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Sut felly mae esbonio ''gwernlas''? Ni cheir yr enw hwn yn Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod ''gwernlas'' yn cael ei ystyried fel enw cyfansawdd annibynnol ac nad oes grym arbennig yn yr ystyr o liw glas neu wyrdd i'r elfen ''glas'', neu ni fyddai unrhyw ddiben ychwanegu'r lliwiau eraill, ''du'' a ''gwyn'' at yr enwau. Mae'n bosib fod y ''glas'' yn cyfeirio at wern neu weirglodd ir. Byddai modd, felly, cael gwern ir olau, sef ''Wernlas Wen'', a gwern ir dywyll, sef ''Wernlas Ddu''. Gwelir y ffurf ''Wernlas'' mewn enwau lleoedd mewn mannau eraill yng ngogledd a de Cymru. | Sut felly mae esbonio ''gwernlas''? Ni cheir yr enw hwn yn Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod ''gwernlas'' yn cael ei ystyried fel enw cyfansawdd annibynnol ac nad oes grym arbennig yn yr ystyr o liw glas neu wyrdd i'r elfen ''glas'', neu ni fyddai unrhyw ddiben ychwanegu'r lliwiau eraill, ''du'' a ''gwyn'' at yr enwau. Mae'n bosib fod y ''glas'' yn cyfeirio at wern neu weirglodd ir. Byddai modd, felly, cael gwern ir olau, sef ''Wernlas Wen'', a gwern ir dywyll, sef ''Wernlas Ddu''. Gwelir y ffurf ''Wernlas'' mewn enwau lleoedd mewn mannau eraill yng ngogledd a de Cymru. | ||
Ar dir ''Wernlas Wen'' ar un adeg safai'r [[Felin Frag]], lle byddai brag, neu grawn haidd, yn cael ei falu ar gyfer bragu cwrw.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.264-5.</ref> | Ar dir ''Wernlas Wen'' ar un adeg safai'r [[Y Felin Frag|Felin Frag]], lle byddai brag, neu grawn haidd, yn cael ei falu ar gyfer bragu cwrw.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.264-5.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] | [[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 08:42, 22 Mai 2024
Saif anheddau Wernlas Ddu a Wernlas Wen ar gyrion gogledd-orllewinol Rhostryfan. Enw cyfansawdd yn cynnwys gwern + glas yw'r elfen gyntaf bron yn sicr. Mae coed gwern (unigol: gwernen, Saesneg: alder) yn tyfu mewn tir gwlyb a chorsiog, ond mewn enwau lleoedd mae gwern yn aml yn cyfeirio at weirglodd laith lle mae'r coed hyn yn tyfu, yn hytrach nag at y coed eu hunain. Dyna a geir yn debygol iawn yn enwau Wernlas Ddu a Wernlas Wen. Ond os yw'r wern yn las, sut y gall fod yn ddu ac yn wyn hefyd? Cyfeirir at y wern laeys ym 1509 (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC) ac at yr wern lase yn yr un ffynhonnell ym 1511. Mae'n ymddangos fel Tythin y Wern Las ym 1696 (Casgliad y Faenol, Gwasanaeth Archifau Gwynedd), a Wernlas mewn ewyllys ym 1767. Yn asesiadau'r Dreth Dir, sy'n ffynhonnell dda ar gyfer ffurfiau llafar, ceir wer lâs ddû / wr las wenn ym 1770 a Wer las ym 1809. Yn llyfr siop Rhostryfan ym 1858-9 ceir y ffurfiau cartrefol werlasthy a werlasddu.
Sut felly mae esbonio gwernlas? Ni cheir yr enw hwn yn Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod gwernlas yn cael ei ystyried fel enw cyfansawdd annibynnol ac nad oes grym arbennig yn yr ystyr o liw glas neu wyrdd i'r elfen glas, neu ni fyddai unrhyw ddiben ychwanegu'r lliwiau eraill, du a gwyn at yr enwau. Mae'n bosib fod y glas yn cyfeirio at wern neu weirglodd ir. Byddai modd, felly, cael gwern ir olau, sef Wernlas Wen, a gwern ir dywyll, sef Wernlas Ddu. Gwelir y ffurf Wernlas mewn enwau lleoedd mewn mannau eraill yng ngogledd a de Cymru.
Ar dir Wernlas Wen ar un adeg safai'r Felin Frag, lle byddai brag, neu grawn haidd, yn cael ei falu ar gyfer bragu cwrw.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.264-5.