Llwybr y Cob: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4: Llinell 4:

Y cynghorau plwyf oedd yn bennaf gyfrifol am adnabod llwybrau cyhoeddus a'u cofrestru, a hynny yn ystod y 1950au, ac arweiniodd hyn at ambell i anghysondeb a olygai fod rhai hawliau tramwy'n cael eu colli. Un o'r colledion mwyaf oedd pen gogleddol Llwybr y Cob. Cofrestrwyd rhan y llwybr oedd yn Llandwrog, ond methodd cyngor Llanwnda â chofrestru'r darn oedd yn y plwyf hwnnw, a oedd yn mynd hyd at bendraw penrhyn [[Belan]] - y pryd hynny, roedd pendraw'r penrhyn yn rhan o blwyf Llanwnda. Erbyn heddiw, nid oes hawl i'r cyhoedd gyrraedd pen draw'r penrhyn ond ar hyd y traeth ar adegau pan fydd y llanw allan.<ref>Map diffiniol llwybrau cyhoeddus Gwynedd; gwybodaeth bersonol</ref>

==Cyfeiriadau==

[[Categori:Llwybrau a ffyrdd trol]]
[[Categori:Llwybrau a ffyrdd trol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:21, 8 Mai 2024

Llwybr y Cob wrth ochr Afon Carrog ger Chatham

Mae Llwybr y Cob yn rhedeg ar hyd y cob (neu forglawdd, arglawdd) sydd yn ymestyn o dŷ Glan-yr-afon ar y ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad Llandwrog heibio i Chatham ar lan arall yr Afon Carrog ac wedyn ar hyd ochr Y Foryd heibio i faes carafannau Morfa Lodge bron yr holl ffordd i Belan. Fe godwyd y cob o dywod a cherrig ar yr adeg yr amgaewyd Morfa Dinlle ac mae'n dal i weithredu fel amddiffyniad rhag llifogydd.

Y cynghorau plwyf oedd yn bennaf gyfrifol am adnabod llwybrau cyhoeddus a'u cofrestru, a hynny yn ystod y 1950au, ac arweiniodd hyn at ambell i anghysondeb a olygai fod rhai hawliau tramwy'n cael eu colli. Un o'r colledion mwyaf oedd pen gogleddol Llwybr y Cob. Cofrestrwyd rhan y llwybr oedd yn Llandwrog, ond methodd cyngor Llanwnda â chofrestru'r darn oedd yn y plwyf hwnnw, a oedd yn mynd hyd at bendraw penrhyn Belan - y pryd hynny, roedd pendraw'r penrhyn yn rhan o blwyf Llanwnda. Erbyn heddiw, nid oes hawl i'r cyhoedd gyrraedd pen draw'r penrhyn ond ar hyd y traeth ar adegau pan fydd y llanw allan.[1]

Cyfeiriadau

  1. Map diffiniol llwybrau cyhoeddus Gwynedd; gwybodaeth bersonol