Odyn galch Tŷ Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Odyn Galch Ty Coch i Odyn galch Ty Coch heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:26, 27 Chwefror 2024

Ceir gweddillion odyn galch sylweddol ar dir fferm Tŷ Coch, oddeutu hanner ffordd rhwng Clynnog ac Aberdesach. Mae'r adfeilion wedi eu lleoli led cae o'r traeth ac mae llwybr cyhoeddus o'r traeth i ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon yn mynd heibio iddynt. Saif y muriau'n bur uchel o hyd ac mae'r lle tân ar gyfer llosgi'r calch a'r simnai uchel yn dal yn weddol gyfan. Defnyddir y fan fel math o gorlan ar gyfer defaid ar hyn o bryd. Nid yw'r odyn wedi ei nodi fel y cyfryw ar y Map Ordnans Explorer cyfredol, ond mae'r enw Borth, sef hen Borth Clynnog, wedi ei nodi ar y map gerllaw safle'r odyn.