Bryn-naid-hir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tŷ rhwng Y Groeslon a Charmel yw '''Bryn-naid-hir'''. Fe'i gelwir yn 'Bryn-neidar' ar lafar, ond 'Bryn-naid-hir' yw'r ffurf ysgrifenedig f...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
1. Ceir ymdriniaeth helaeth ar yr enw hwn yn: Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.48-9. | 1. Ceir ymdriniaeth helaeth ar yr enw hwn yn: Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.48-9. | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 20:16, 16 Chwefror 2024
Tŷ rhwng Y Groeslon a Charmel yw Bryn-naid-hir. Fe'i gelwir yn 'Bryn-neidar' ar lafar, ond 'Bryn-naid-hir' yw'r ffurf ysgrifenedig fel rheol - a Brynnaidhir, heb gysylltnodau, yw'r ffurf a geir yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol. Cofnodwyd Brynyneidr ym 1769 (Casgliad Newborough - Glynllifon), ond ceir amrywiadau ar Bryn-naid-hir mewn ffynonellau megis asesiadau'r Dreth Dir rhwng 1770 a 1774. O ran datblygiad llafar naturiol byddai'n hawdd i Bryn-naid-hir droi yn Bryn-neidr. Efallai nad oedd yr elfen 'neidr' yn enw tŷ yn gymeradwy gan rai ac y gwnaed ymgais i'w newid i 'Bryn-naid-hir' - gan efallai greu rhyw stori onomastig am ryw naid hir nodedig i egluro'r enw. Ar y llaw arall gallai gweld neidr neu nadroedd ar ddarn o dir beri i enw'r creadur hwnnw gael ei gysylltu â'r lle, yn arbennig os gwelwyd rhyw neidr bur fawr a thrawiadol yno rhywdro. 1
Cyfeiriadau
1. Ceir ymdriniaeth helaeth ar yr enw hwn yn: Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.48-9.