Neuadd Goffa Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Ailgyfeiriad newydd
 
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Penygroes_War_Memorial_-_geograph.org.uk_-_141335.jpg|bawd|de|400px|Llun:David Medcalf]]
#ail-cyfeirio [[Neuadd a Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes]]
 
Ail-enwyd y neuadd yn '''Neuadd Goffa Pen-y-groes''' wedi iddi gael ei hymestyn yn sylweddol trwy adeiladu ail ystafell fawr a mynedfa newydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym 1933. Mae'r adeilad bellach yn wynebu safle [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes]] yn hytrach na'i fod yn amlwg o ganol y pentref. Gwelir elfennau (digon amrwd) o arddull adeiladu'r cyfnod yn yr estyniad, yn arbennig yr arysgrif uwchben y brif fynedfa.
 
Y tu allan, ar ganol Sgwâr y Farchnad, y mae cofeb ryfel y pentref gydag englyn enwog [[R. Williams Parry]] arni:
 
    O Gofadail gofidiau tad a mam!
      Tydi mwy drwy'r oesau
    Ddysgi ffordd i ddwys goffáu
    Y rhwyg o golli'r hogiau.
 
O'r Neuadd hon y cychwynnodd 2000 o ferched ar eu [[Gorymdaith y Merched dros Heddwch]] ym 1926.<ref>Plac ar yr adeilad</ref>
 
Cafwyd grantiau loteri ar ddechrau'r 2010au i adnewyddu'r adeilad, a defnyddir y neuadd a'i dwy brif ystafell, parlwr a chegin ar gyfer sawl gweithgaredd ar hyn o bryd, gan gynnwys Sioe Arddio, ffeiriau, prydau cymunedol, dosbarthiadau a darlithoedd.
 
==Cyfeiriadau==
 
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau cymunedol]]
[[Categori:Cofebau milwrol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:49, 15 Tachwedd 2023