Tafarn Tŷ'n Llan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
Enw "cywir" Tŷ'n Llan" yw Tafarn yr Harp ond prin yr arddelir yr enw swyddogol. Mae'r enw Tŷ'n Llan yn gyffredin fel enw ar dafarndai ger eglwysi, sef canolbwynt y plwyf lle byddai'r trigolion yn cwrdd ar gyfer pob math o weithgareddau - mynychu'r eglwys, cynnal cyfarfodydd neu chwarae gemau traddodiadol. Mae'n sicr bod tafarn ar y safle ers o leiaf 1751 pan wnaed map o diroedd demên [[Plas Glynllifon]]. Yno ceir enw tafarn yr eglwys ("church alehouse and garden") lle saif y dafarn heddiw. Ym 1832, comisiynodd sgweier Glynllifon gerdd gan [[Eben Fardd]] i'w gosod uwchben y drws, ac sydd i'w gweld ar lechen ar wal yr adeilad hyd heddiw.

Mae'r adeilad presennol yn dyddio o tua 1864-5 pan oedd [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] yn datblygu pentref Llandwrog fel [[Pentref model|pentref model]], gyda thai o safon a oedd (a hyn yn bwysicaf) yn bleser i'r llygad. Dyna, efallai, pam bod yr adeilad presennol yn ymddangos yn hŷn na'i oed o ran arddull. Bryd hynny y defnyddiwyd yr enw "Harp Inn" am y tro cyntaf.<ref>Gwefan Tŷ'n Llan, [https://tynllan.cymru/ein-stori/], cyrchwyd 31.10.2023</ref>
Mae'r adeilad presennol yn dyddio o tua 1864-5 pan oedd [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] yn datblygu pentref Llandwrog fel [[Pentref model|pentref model]], gyda thai o safon a oedd (a hyn yn bwysicaf) yn bleser i'r llygad. Dyna, efallai, pam bod yr adeilad presennol yn ymddangos yn hŷn na'i oed o ran arddull. Bryd hynny y defnyddiwyd yr enw "Harp Inn" am y tro cyntaf.<ref>Gwefan Tŷ'n Llan, [https://tynllan.cymru/ein-stori/], cyrchwyd 31.10.2023</ref> Yn ddiddorol, defnyddir yr enw "Tŷ'n Llan Hotel" yn hytrach na'r "Harp" ar fap Ordnans 1900.

Heblaw am dafarnau yn y trefi, roedd tai cwrw a thafarnau cefn gwlad yn aml yn ffordd i ffarmwr neu grefftwr wneud ychydig o elw ychwanegol, neu weddw grafu byw, trwy fragu cwrw a gwerthu'r cynnyrch wedyn. Nid yw'n syndod felly nad yw Tŷ'n Llan yn cael ei nodi'n benodol ar fap degwm y plwyf tua 1849. Mae'n debyg mai Owen Jones oedd yn cadw'r dafarn ym 1841, adeg y cyfrifiad manwl cyntaf, er na chrybwyllwyd tafarn. Ffarmwr sylweddol oedd o, yn cyflogi dwy forwyn a phump o weision fferm; Tŷ'n Llan oedd enw'r fferm yn gyffredinol. Erbyn 1861 roedd Owen wedi marw, ond roedd ei weddw Gwen yn dal i ffermio Tŷ'n Llan, fferm 160 erw, gyda chymorth pum gwas. Ym 1871, ffermwr ifanc lleol oedd yn ffermio Tŷ'n Llan: Edmund Jones, 28 oed. Nid oedd sôn am dafarn na thafarnwr unwaith eto. Priododd ag Ellen, merch o Lanrug, yn fuan wedyn, ond bu farw tua 1878, gan adael Ellen yn weddw gyda dau o blant. Ym 1881, hi oedd yn ffermio Tŷ'n Llan, ond nodir hefyd ei bod yn dafarnwraig drwyddedig. Mae hyn yn cadarnhau bod cadw tafarn yn rhan o waith y fferm, a hynny am y tro cyntaf. Roedd y teulu'n dal yno ym 1891.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1841-91</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:40, 26 Mawrth 2024

Mae Tafarn Tŷ'n Llan yn dafarn gyferbyn â'r eglwys ym mhentref Llandwrog. Er 2021 mae wedi cael ei datbygu'n dafarn gymunedol gan griw o bobl leol.

Enw "cywir" Tŷ'n Llan" yw Tafarn yr Harp ond prin yr arddelir yr enw swyddogol. Mae'r enw Tŷ'n Llan yn gyffredin fel enw ar dafarndai ger eglwysi, sef canolbwynt y plwyf lle byddai'r trigolion yn cwrdd ar gyfer pob math o weithgareddau - mynychu'r eglwys, cynnal cyfarfodydd neu chwarae gemau traddodiadol. Mae'n sicr bod tafarn ar y safle ers o leiaf 1751 pan wnaed map o diroedd demên Plas Glynllifon. Yno ceir enw tafarn yr eglwys ("church alehouse and garden") lle saif y dafarn heddiw. Ym 1832, comisiynodd sgweier Glynllifon gerdd gan Eben Fardd i'w gosod uwchben y drws, ac sydd i'w gweld ar lechen ar wal yr adeilad hyd heddiw.

Mae'r adeilad presennol yn dyddio o tua 1864-5 pan oedd Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough yn datblygu pentref Llandwrog fel pentref model, gyda thai o safon a oedd (a hyn yn bwysicaf) yn bleser i'r llygad. Dyna, efallai, pam bod yr adeilad presennol yn ymddangos yn hŷn na'i oed o ran arddull. Bryd hynny y defnyddiwyd yr enw "Harp Inn" am y tro cyntaf.[1] Yn ddiddorol, defnyddir yr enw "Tŷ'n Llan Hotel" yn hytrach na'r "Harp" ar fap Ordnans 1900.

Heblaw am dafarnau yn y trefi, roedd tai cwrw a thafarnau cefn gwlad yn aml yn ffordd i ffarmwr neu grefftwr wneud ychydig o elw ychwanegol, neu weddw grafu byw, trwy fragu cwrw a gwerthu'r cynnyrch wedyn. Nid yw'n syndod felly nad yw Tŷ'n Llan yn cael ei nodi'n benodol ar fap degwm y plwyf tua 1849. Mae'n debyg mai Owen Jones oedd yn cadw'r dafarn ym 1841, adeg y cyfrifiad manwl cyntaf, er na chrybwyllwyd tafarn. Ffarmwr sylweddol oedd o, yn cyflogi dwy forwyn a phump o weision fferm; Tŷ'n Llan oedd enw'r fferm yn gyffredinol. Erbyn 1861 roedd Owen wedi marw, ond roedd ei weddw Gwen yn dal i ffermio Tŷ'n Llan, fferm 160 erw, gyda chymorth pum gwas. Ym 1871, ffermwr ifanc lleol oedd yn ffermio Tŷ'n Llan: Edmund Jones, 28 oed. Nid oedd sôn am dafarn na thafarnwr unwaith eto. Priododd ag Ellen, merch o Lanrug, yn fuan wedyn, ond bu farw tua 1878, gan adael Ellen yn weddw gyda dau o blant. Ym 1881, hi oedd yn ffermio Tŷ'n Llan, ond nodir hefyd ei bod yn dafarnwraig drwyddedig. Mae hyn yn cadarnhau bod cadw tafarn yn rhan o waith y fferm, a hynny am y tro cyntaf. Roedd y teulu'n dal yno ym 1891.[2]

Roedd y dafarn yn dal yn eiddo i Ystad Glynllifon yn nechrau'r 20g, cyn iddi gael ei gwerthu. Ar ôl sawl newid dwylo a'r tenanatiaid masnachol olaf yn ymadael â'r lle yn 2017, cychwynnodd yr ymgyrch i brynu'r dafarn ar gyfer y gymuned, gan ei bod yn amlwg nad oedd diddordeb gan neb mewn prynu'r adeilad fel tafarn.[3]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Tŷ'n Llan, [1], cyrchwyd 31.10.2023
  2. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1841-91
  3. Gwefan Tŷ'n Llan, [2], cyrchwyd 31.10.2023