Gwynfor Pierce Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hanesydd ac athro ysgol o bentref Tal-y-sarn oedd y Dr '''Gwynfor Pierce Jones''' (1953-2013). Arbenigwr ydoedd ar hanes y diwydiant llechi yng N...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Hanesydd]] ac athro ysgol o bentref [[Tal-y-sarn]] oedd y Dr '''Gwynfor Pierce Jones'''  (1953-2013). Arbenigwr ydoedd ar hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a [[Dyffryn Nantlle]] yn benodol. Ac yntau'n dal yn fachgen ysgol, ymwelodd â nifer o'r chwareli lleol oedd wedi cau, gan achub llawer o fân greiriau a chofnodion a fyddai, fel arall, wedi mynd i ddifancoll. Ers blynyddoedd maent wedi eu hadneuo yn Archifdy Caernarfon, lle mae'r casgliad yn llenwi bwlch yng nghofnod chwarelydda yn Nyffryn Nantlle.  
Hanesydd ac athro ysgol o bentref [[Tal-y-sarn]] oedd y Dr '''Gwynfor Pierce Jones'''  (1953-2013). Arbenigwr ydoedd ar hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a [[Dyffryn Nantlle]] yn benodol. Ac yntau'n dal yn fachgen ysgol, ymwelodd â nifer o'r chwareli lleol oedd wedi cau, gan achub llawer o fân greiriau a chofnodion a fyddai, fel arall, wedi mynd i ddifancoll. Ers blynyddoedd maent wedi eu hadneuo yn Archifdy Caernarfon, lle mae'r casgliad yn llenwi bwlch yng nghofnod chwarelydda yn Nyffryn Nantlle.  

Cafodd ei radd mewn pwnc gwyddonol ac am flynyddoedd bu'n athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Pwllheli, cyn ymddeol yn gynnar ar sail afiechyd. Derbyniodd radd Doethur am draethawd ar hanes chwareli'r Dyffryn. O hynny ymlaen, gweithiai fel ymgynghorydd llaw-rydd ym maes daeareg a chwarelydda. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd yn ei faes, a chyhoeddodd ddwy gyfrol fer - er y gallai fod wedi ysgrifennu'n fwy helaeth o lawer ar ei ddewis bwnc.

Roedd o hefyd yn gefnogwr brwd o fandiau pres – yn aelod ac yn gyn-ysgrifennydd [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]], ac wedi bod yn chwarae’r bas i Fand Porthaethwy y nos Sul cyn ei farwolaeth ar Noswyl Nadolig 2013, a hynny mewn gwasanaeth carolau yn Y Felinheli.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/132202-marw-hanesydd-bror-chwareli |teitl=Marw hanesydd bro’r chwareli |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=26 Rhagfyr 2013 |dyddiadcyrchiad=1 Ionawr 2014; gwybodaeth bersonol; Erthygl Wicipedia ar Gwynfor Pierce Jones [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwynfor_Pierce_Jones], adalwyd 9.10.2023 }}</ref>
Roedd o hefyd yn gefnogwr brwd o fandiau pres – yn aelod ac yn gyn-ysgrifennydd [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]], ac wedi bod yn chwarae’r bas i Fand Porthaethwy y nos Sul cyn ei farwolaeth ar Noswyl Nadolig 2013, a hynny mewn gwasanaeth carolau yn Y Felinheli.<ref>www.golwg360.com/newyddion/cymru/132202; gwybodaeth bersonol; Erthygl Wicipedia ar Gwynfor Pierce Jones [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwynfor_Pierce_Jones], adalwyd 9.10.2023</ref>

== Llyfryddiaeth ==
== Llyfryddiaeth ==

Fersiwn yn ôl 09:33, 9 Hydref 2023

Hanesydd ac athro ysgol o bentref Tal-y-sarn oedd y Dr Gwynfor Pierce Jones (1953-2013). Arbenigwr ydoedd ar hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a Dyffryn Nantlle yn benodol. Ac yntau'n dal yn fachgen ysgol, ymwelodd â nifer o'r chwareli lleol oedd wedi cau, gan achub llawer o fân greiriau a chofnodion a fyddai, fel arall, wedi mynd i ddifancoll. Ers blynyddoedd maent wedi eu hadneuo yn Archifdy Caernarfon, lle mae'r casgliad yn llenwi bwlch yng nghofnod chwarelydda yn Nyffryn Nantlle.

Cafodd ei radd mewn pwnc gwyddonol ac am flynyddoedd bu'n athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Pwllheli, cyn ymddeol yn gynnar ar sail afiechyd. Derbyniodd radd Doethur am draethawd ar hanes chwareli'r Dyffryn. O hynny ymlaen, gweithiai fel ymgynghorydd llaw-rydd ym maes daeareg a chwarelydda. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd yn ei faes, a chyhoeddodd ddwy gyfrol fer - er y gallai fod wedi ysgrifennu'n fwy helaeth o lawer ar ei ddewis bwnc.

Roedd o hefyd yn gefnogwr brwd o fandiau pres – yn aelod ac yn gyn-ysgrifennydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, ac wedi bod yn chwarae’r bas i Fand Porthaethwy y nos Sul cyn ei farwolaeth ar Noswyl Nadolig 2013, a hynny mewn gwasanaeth carolau yn Y Felinheli.[1]

Llyfryddiaeth

  • Cwm Gwyrfai: The Quarries of the North Wales Narrow Gauge and the Welsh Highland Railways (ar y cyd ag Alun John Richards; 2004)
  • Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle (2008)

Cyfeiriadau

  1. www.golwg360.com/newyddion/cymru/132202; gwybodaeth bersonol; Erthygl Wicipedia ar Gwynfor Pierce Jones [1], adalwyd 9.10.2023