Cor Meibion Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:

   "Yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn y ddau ddegau fe ffurfiwyd Côr Meibion yn Nhrefor o dan arweiniad Mr Ben Roberts, Glandŵr, i fynd i gystadlu yn Eisteddfod Pencaenewydd, a’r darn i gystadlu arno oedd Y Delyn Aur. Dau gôr oedd yn cystadlu, Trefor a Llithfaen, a’r beirniad oedd Mr Joseph Thomas, Cwm-y-glo. Trefor a enillodd y wobr. Roedd brwdfrydedd mawr a balchder yn yr ardal wedi i’r côr ennill, a dyna oedd testun pob sgwrs yn Chwarel yr Eifl am ddyddiau lawer gan fod cymaint o Lithfaen a Threfor yn gweithio yn y Chwarel.

   Y pryd hyn roedd bri mawr ar Eisteddfodau yn y cylch; roedd Eisteddfod lewyrchus iawn yng Nghapel Isaf, Llithfaen, bob nos Nadolig ac yn Chwilog a Threfor nos trannoeth, sef ‘Boxing Night’. Y darn i gystadlu arno i gorau meibion oedd Nos yr Ystorm. Fe aeth côr Trefor i Lithfaen ond Llithfaen enillodd y wobr. Y diwrnod dilynol roedd dwy Eisteddfod, un yn Chwilog a’r llall yn Gosen, Trefor. Nos yr Ystorm oedd y darn i gystadlu arno yn y ddau le.

   Fe drefnwyd yn Chwilog i’r corau gael canu yn gynnar er mwyn iddynt gael mynd i Drefor i gystadlu yn ogystal. Mr Gordon Price, Y Bala, oedd y beirniad yn Chwilog a chôr meibion Trefor a orfu. Y beirniad yng Ngosen, Trefor oedd yr un un ag oedd yn Llithfaen y nos cynt, ac roedd o yn awyddus iawn i gael gwybod pwy oedd wedi ennill yn Chwilog. Cafwyd canu da iawn yn Nhrefor a chôr Trefor a gafodd y wobr.

   Ar ôl hyn, cynyddodd rhif y côr ac fe aeth yn Gôr Meibion Trefor a’r Cylch, yn cyrraedd i Lanaelhaearn a Chapel Helyg, a rhai o Bwllheli. Pasiwyd i fynd i gystadlu i Eisteddfod Dalaethol Blaenau Ffestiniog a’r darn a ganwyd oedd Milwyr y Groes, Dr Joseph Parry. Trigain punt o wobr a’r Dr Vaughan Thomas yn beirniadu. Saith côr yn cystadlu, corau enwog iawn fel côr y Moelwyn, a Dolgellau, a oedd yn enwog iawn bryd hynny.  Richard Thomas o Ddinorwig a ganai yr unawd tenor i Gôr Trefor yn y darn yma, a Trefor a gafodd y wobr. Cyfeilydd y côr oedd y diweddar Mr Edward J Hughes ALCM FRCO, Trefor a chafodd lawer o sylw gan wahanol feirniaid a feirniadai’r côr.

   Ar ôl Eisteddfod Ffestiniog bu’r côr yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer Eisteddfodau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1925. Roedd yno gystadleuaeth dda iawn, ond Llithfaen a orfu y tro hwn. Eisteddfodau eraill oedd yn y Sun Hall yn Lerpwl, a’r Central Hall yn erbyn corau meibion fel Cerrig y Drudion, Ffynnon-groew a Chôr Tuhwnt i’r Afon, Lerpwl, o dan arweiniad Mr Mathews Williams FRCO, sef Dr Mathews Williams, heddiw.

   Bu’r côr hefyd yn cynnal cyngherddau ar hyd a lled y wlad. Amser difyr iawn oedd y cyfnod hwnnw ac yn adeiladaeth i bawb oedd yn y Côr, gan fod Mr Ben Roberts yn gerddor da ac yn arweinydd medrus iawn. Roedd ganddo weledigaeth eglur, a deallai neges pob darn a ganai’r côr, a rhoddai bwyslais bob amser ar y geiriau a’u neges.  

   Daeth slacrwydd i’r Chwarel a bu raid i lawer gefnu ar yr ardal a chwilio am waith a chynhaliaeth ymhell o gartref.  Y dirwasgiad yma yn 1927 i 1930 a ddaeth a diwedd i’r côr a’r Gymdeithas Gorawl oedd yn Nhrefor, ond erys yr atgofion o’r cyfnod euraidd hwnnw am byth yng nghof aelodau’r côr enwog a fu yn Nhrefor."

Fersiwn yn ôl 19:15, 4 Hydref 2023

Roedd Côr Meibion Trefor yn gôr a fu'n gweithredu am oddeutu saith mlynedd rhwng tua 1919 a 1926.

Derbyniais y wybodaeth isod amdano gan Dafydd Roberts o Drefor. Cododd ef y wybodaeth o lawysgrif sydd yn ei feddiant ac mae'n credu iddi gael ei hysgrifennu gan y diweddar Owen Roberts, Llwyn, Trefor. Roedd Owen Roberts yn gerddor da, ac yn ddiacon a chodwr canu yng nghapel Maesyneuadd, Trefor. Yn ôl Gwilym Owen yn ei gyfrol Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, tud. 20, bu'r côr yn gweithredu rhwng 1919 a 1926.