Ffynnon Bren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ffynnon ar lethr gogleddol [[Garn Gano]]l (copa canol) [[Yr Eifl|yr Eifl]] yw '''Ffynnon Bren'''.  
Ffynnon ar lethr gogleddol [[Garn Ganol]] (copa canol) [[Yr Eifl|yr Eifl]] yw '''Ffynnon Bren'''.  

Mae'n weddol isel i lawr ar y llethr, dipyn uwchlaw [[Craig y Cwm]], gyda llwybr yn mynd heibio iddi. Mae'r ffynnon o fewn cist o goed a llechi wedi'u powltio wrth ei gilydd ac roedd caead pren arni er mwyn cadw'r dŵr yn lân y tro diwethaf y bûm yno rai blynyddoedd yn ôl. Defnyddid dŵr o'r Ffynnon Bren yn [[Chwarel yr Eifl]], sydd yn bur agos, ac roedd trigolion [[Trefor]] a'r cyffiniau yn aml yn torri eu syched yn y ffynnon pan fyddent yn cyrchu i'r Eifl ganol haf i hel llus. Mae'n ddŵr clir, eithriadol oer sy'n tarddu o grombil y mynydd ac yn hyfryd ei flas, a phur debyg o ran ei ansawdd i ddŵr [[Ffynnon Aelhaearn]].

[[Categori:Ffynhonnau]]
[[Categori:Ffynhonnau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:45, 21 Mawrth 2023

Ffynnon ar lethr gogleddol Garn Ganol (copa canol) yr Eifl yw Ffynnon Bren.

Mae'n weddol isel i lawr ar y llethr, dipyn uwchlaw Craig y Cwm, gyda llwybr yn mynd heibio iddi. Mae'r ffynnon o fewn cist o goed a llechi wedi'u powltio wrth ei gilydd ac roedd caead pren arni er mwyn cadw'r dŵr yn lân y tro diwethaf y bûm yno rai blynyddoedd yn ôl. Defnyddid dŵr o'r Ffynnon Bren yn Chwarel yr Eifl, sydd yn bur agos, ac roedd trigolion Trefor a'r cyffiniau yn aml yn torri eu syched yn y ffynnon pan fyddent yn cyrchu i'r Eifl ganol haf i hel llus. Mae'n ddŵr clir, eithriadol oer sy'n tarddu o grombil y mynydd ac yn hyfryd ei flas, a phur debyg o ran ei ansawdd i ddŵr Ffynnon Aelhaearn.