Tyrpeg Pant Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Safai giât '''Tyrpeg Pant Du''' ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng Clynnog Fawr a Rhyd-ddu, ger fferm Pant Du, Pen-y-groes, ar y darn o'r h...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Safai giât '''Tyrpeg Pant Du''' ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng [[Clynnog Fawr]] a [[Rhyd-ddu]], ger fferm [[Pant Du]], [[Pen-y-groes]], ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o Ben-y-groes wedi i ffordd newydd gael ei hadeiladu rhwng Pen-y-groes a phentref [[Tal-y-sarn]] oedd yn dechrau tyfu ar y pryd, a hynny yn ystod y 1850au. Cyn hynny, dim ond [[Tyrpeg Gelli]] ger [[Nantlle]] oedd yn y [[Dyffryn Nantlle|nyffryn]].  
Safai giât '''Tyrpeg Pant Du''' ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng [[Clynnog Fawr]] a [[Rhyd-ddu]], ger fferm [[Pant Du]], [[Pen-y-groes]], ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o Ben-y-groes wedi i ffordd newydd gael ei hadeiladu rhwng Pen-y-groes a phentref [[Tal-y-sarn]] oedd yn dechrau tyfu ar y pryd, a hynny yn ystod y 1850au. Cyn hynny, dim ond [[Tyrpeg Gelli]] ger [[Nantlle]] oedd yn y [[Dyffryn Nantlle|dyffryn]].  


Yr arfer oedd i [[Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon]] osod pob giat dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Rhwng 1861 ac 1880, cododd rhent flynyddol y tollborth hon o £22 i £80, gan adlewyrchu tŵf yn y nwyddau a gludwyd ar hyd y lôn. Fe'i caewyd, ynghyd â holl dollbyrth eraill yr Ymddiriedolaeth, yn 1882 pan "ryddhawyd" y ffyrdd, a thynnwyd y giatiau eu hunain i lawr.<ref>R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", ''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.17 (1956), t.69</ref>
Yr arfer oedd i [[Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon]] osod pob giât dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Rhwng 1861 ac 1880, cododd rhent flynyddol y dollborth hon o £22 i £80, gan adlewyrchu tŵf yn y nwyddau a gludwyd ar hyd y lôn. Fe'i caewyd, ynghyd â holl dollbyrth eraill yr Ymddiriedolaeth, ym 1882 pan "ryddhawyd" y ffyrdd, a thynnwyd y giatiau eu hunain i lawr.<ref>R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", ''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.17 (1956), t.69</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Ffyrdd]]
[[Categori:Ffyrdd]]

Fersiwn yn ôl 11:37, 20 Ionawr 2023

Safai giât Tyrpeg Pant Du ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng Clynnog Fawr a Rhyd-ddu, ger fferm Pant Du, Pen-y-groes, ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o Ben-y-groes wedi i ffordd newydd gael ei hadeiladu rhwng Pen-y-groes a phentref Tal-y-sarn oedd yn dechrau tyfu ar y pryd, a hynny yn ystod y 1850au. Cyn hynny, dim ond Tyrpeg Gelli ger Nantlle oedd yn y dyffryn.

Yr arfer oedd i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon osod pob giât dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Rhwng 1861 ac 1880, cododd rhent flynyddol y dollborth hon o £22 i £80, gan adlewyrchu tŵf yn y nwyddau a gludwyd ar hyd y lôn. Fe'i caewyd, ynghyd â holl dollbyrth eraill yr Ymddiriedolaeth, ym 1882 pan "ryddhawyd" y ffyrdd, a thynnwyd y giatiau eu hunain i lawr.[1]

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), t.69