Y Brodyr Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis ('''Y Brodyr Francis''').  
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis ('''Y Brodyr Francis''').  


Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - [[Mary Owen (Mair Alaw)|Mair Alaw]] - yn gantores o [[Nantlle]]. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , [[Drws-y-coed]] at eu taid, yna i'r [[Gelli-ffrydiau]] ac wedyn i bentref Nantlle.  Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn Chwarel Glan'rafon, [[Rhyd-ddu]], cyn symud i [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn.  Gwrthod cytundeb gyda chwmni recordiau HMV yn y 1920au, gan nad oedd y cwmni'n fodlon derbyn cyfeilydd arferol y deuawd, sef Bob Owen, gan fynnu bod y brodyr yn canu i gyfeiliant telyn. Oherwydd hyn, nid oes recordiad ohonynt yn bodoliu. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. <ref>Robert Wyn, "Y Brodyr Francis", ''Lleu'' 540 (Mai 2022), t.20</ref>
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - [[Mary Owen (Mair Alaw)|Mair Alaw]] - yn gantores o [[Nantlle]]. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , [[Drws-y-coed]] at eu taid, yna i'r [[Gelli-ffrydiau]] ac wedyn i bentref Nantlle.  Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn Chwarel Glan'rafon, [[Rhyd-ddu]], cyn symud i [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn.  Gwrthod cytundeb gyda chwmni recordiau HMV yn y 1920au, gan nad oedd y cwmni'n fodlon derbyn cyfeilydd arferol y deuawd, sef Bob Owen, gan fynnu bod y brodyr yn canu i gyfeiliant telyn. Oherwydd hyn, nid oes recordiad ohonynt yn bodolu. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. <ref>Robert Wyn, "Y Brodyr Francis", ''Lleu'' 540 (Mai 2022), t.20</ref>


Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru.  Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith ''Telyn Eryri'' gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.
Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru.  Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith ''Telyn Eryri'' gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Fersiwn yn ôl 12:03, 13 Ionawr 2023

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad, a hanai'n wreiddiol o Dal-y-sarn yn swyddog yn chwarel y Moelfre, Cwm Pennant ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Bu farw'r ddau riant yn ifanc, a mudodd y teulu bach oddi yno i'r Clogwyn Brwnt , Drws-y-coed at eu taid, yna i'r Gelli-ffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn Chwarel Glan'rafon, Rhyd-ddu, cyn symud i Chwarel Pen-yr-orsedd.. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn. Gwrthod cytundeb gyda chwmni recordiau HMV yn y 1920au, gan nad oedd y cwmni'n fodlon derbyn cyfeilydd arferol y deuawd, sef Bob Owen, gan fynnu bod y brodyr yn canu i gyfeiliant telyn. Oherwydd hyn, nid oes recordiad ohonynt yn bodolu. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. [1]

Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939) oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936, (fe'i claddwyd ym mynwent Capel Salem (MC), Llanllyfni) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes).[2]

Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, "Y Brodyr Francis", Lleu 540 (Mai 2022), t.20
  2. Y Casglwr, Y Casglwr; rhan 1 a Y Casglwr; rhan 2; Y Bywgraffiadur Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru