Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 17: Llinell 17:
Adeiladwyd '''Llwyn Onn''' gan Doctor John Williams yn 1869. (Gwelais fedd y Doctor ym mynwent Capel Helyg. GW).  Yr oedd Llyn Hwyaid y fferm Llwyn y Fuches yn y fan lle y mae y fynedfa i Llwyn Onn (Nythfa) a thy Hugh Williams a'r gadlas, lle y saif y tri thy cyntaf rhyngoch a Capel Wesla.  

Adeiladwyd y tai o Capel Wesla hyd at y Banc yn 1865-1867, y pump cyntaf gan Richard G. Pritchard, Garreg Wen a H.G. Pritchard, yna Robert Evans; Robert Williams a John Roberts.  Roedd cae bychan oddi yno i brif-ffordd Llanllyfni i Gaernarfon, lle mae y Banc a'r Post Office heddiw. (Yr Hen Post Office oedd hwn. Y maent wedi adeiladu un newydd ar ol hynny. GW).
Adeiladwyd y tai o Capel Wesla hyd at y Banc yn 1865-1867, y pump cyntaf gan Richard G. Pritchard, Garreg Wen a H.G. Pritchard, yna Robert Evans; Robert Williams a John Roberts.  Roedd cae bychan oddi yno i brif-ffordd Llanllyfni i Gaernarfon, lle mae y Banc a'r Post Office heddiw. (Yr Hen Post Office oedd hwn. Y maent wedi adeiladu un newydd ar ol hynny. GW). Cawsant eu hadeiladu yn dy ac yn siop yn 1867 gan Owen Roberts.
 
'''Adeiladau''' 
Ty Dr Ellis, Ivy House, Water Street yn 1836, gan Robert Williams;
Goat Hotel gan Methusalem Jones yn 1866;
Victoria Hotel gan H.J. Thomas yn 1867;
Tai ochor uchaf i'r Post, 1865-1866;
Prince of Wales gan J. Griffith, 1867;
County Road, R.G. Pritchard a Hugh Pritchard, 1864;
Robert Ellis, 1865 y chwech cyntaf.
Water Street, 1862, W. Herbert Jones a Owen Roberts, 1867.

Fersiwn yn ôl 13:46, 20 Ionawr 2018

Hanes

Hen Atgofion am Ben-y-groes gan Owen Owen, Cartrefle, Tanrallt.

I gael cip ar bentref Pen-y-groes pan oeddwn yn hogyn, awn am dro at:

Yr Hen Dyrpaig, Tolldy ar y brif ffordd (Tal-y-sarn), yn cael ei gadw gan hen wr a adwaenwn wrth yr enw Sion Dafydd y Tyrpaig. Gyferbyn a'r porth yr oedd dau gilbost mawr o lechfaen, a giat fawr led y ffordd, ac oddeutu iddynt droell i'r person unigol fynd trwodd. Telir toll ar bob march a cheffyl drol ai trwodd i godi arian i drwsio y ffordd.

Adeiladwyd yn 1867 dy tafarn gan J. Thomas y Park, a galwyd efo "Prince Llewelyn".

Y lle cyntaf wedyn yw Llwyn y Fuches, buarth fferm bwysig i Robert Huws, "Stack Head Inn" (heddiw Muriau Stores).Nid oes dim yn aros heddiw yn y lle yma ond ychydig o'r coed, ac fe fyddent yn hel y gwartheg oddi tanynt yn yr haf i'w godro. (Y mae yr hen garreg farch i'w gweld heddiw yn Llwyn y Fuches.GW)

Adeiladwyd Llwyn Onn gan Doctor John Williams yn 1869. (Gwelais fedd y Doctor ym mynwent Capel Helyg. GW). Yr oedd Llyn Hwyaid y fferm Llwyn y Fuches yn y fan lle y mae y fynedfa i Llwyn Onn (Nythfa) a thy Hugh Williams a'r gadlas, lle y saif y tri thy cyntaf rhyngoch a Capel Wesla.

Adeiladwyd y tai o Capel Wesla hyd at y Banc yn 1865-1867, y pump cyntaf gan Richard G. Pritchard, Garreg Wen a H.G. Pritchard, yna Robert Evans; Robert Williams a John Roberts. Roedd cae bychan oddi yno i brif-ffordd Llanllyfni i Gaernarfon, lle mae y Banc a'r Post Office heddiw. (Yr Hen Post Office oedd hwn. Y maent wedi adeiladu un newydd ar ol hynny. GW). Cawsant eu hadeiladu yn dy ac yn siop yn 1867 gan Owen Roberts.

Adeiladau Ty Dr Ellis, Ivy House, Water Street yn 1836, gan Robert Williams; Goat Hotel gan Methusalem Jones yn 1866; Victoria Hotel gan H.J. Thomas yn 1867; Tai ochor uchaf i'r Post, 1865-1866; Prince of Wales gan J. Griffith, 1867; County Road, R.G. Pritchard a Hugh Pritchard, 1864; Robert Ellis, 1865 y chwech cyntaf. Water Street, 1862, W. Herbert Jones a Owen Roberts, 1867.