Robert (Bob) Evans, Croxteth Road, Lerpwl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed '''Robert (Bob) Evans''' ym mhlwyf Llandwrog ym 1875 a daeth i amlygrwydd fel adeiladwr a dyn busnes yn Lerpwl. Daeth i Lerpwl yn fachgen 14 oed i'...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''Robert (Bob) Evans''' ym mhlwyf Llandwrog ym 1875 a daeth i amlygrwydd fel adeiladwr a dyn busnes yn Lerpwl.
Ganed '''Robert (Bob) Evans''' (1875-1927) ym mhlwyf [[Llandwrog]] ym 1875 a daeth i amlygrwydd fel adeiladwr a dyn busnes yn Lerpwl.


Daeth i Lerpwl yn fachgen 14 oed i'w addysgu dan ofal ei frawd hŷn, John, a oedd wedi ymgartrefu yn y ddinas ers rhai blynyddoedd ac yn flaenor yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Fitzclarence Street. Gweithiai John i gwmni John Evans & Co. Ltd., cyflenwyr adeiladwyr, yn Soho Street. Yn naturiol ymunodd Robert â'r cwmni hwn a bu'n gysylltiedig ag ef, ac yn uchel iawn ei barch ynddo, tan ddiwedd ei oes.  John Evans oedd yr hynaf o bedwar brawd a Robert oedd yr ieuengaf. Daeth John i Lerpwl ym 1870 a Robert ym 1889. Addysgwyd Robert yn y Liverpool Institute (ysgol nos a ddarparai addysg ragorol ym meysydd mathemateg, peirianneg a thechnoleg) ac ymunodd â'i frawd yn y busnes maes o law. Daeth yn gwmni cyfyngedig ym 1911, gyda'r ddau frawd yn dod yn gyfarwyddwyr arno. Fel ei frawd, daeth Robert hefyd yn flaenor yn eglwys Fitzclarence Street, a hynny ym 1914. Priododd â merch William Evans, Y.H., Silvermere, Anfield, a oedd yn un o hoelion wyth cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl bryd hynny ac a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Lerpwl. Er nad oedd yn gryf ei iechyd, roedd Robert yn weithiwr caled a chydwybodol a bu'n gadeirydd y Builders' Merchants Association am gyfnod. Hefyd adeiladodd lawer o dai yn ardaloedd Seacombe, Aigburth a'r Dingle, ar gyrion dinas Lerpwl.<sup>[1]</sup>
Daeth i Lerpwl yn fachgen 14 oed i'w addysgu dan ofal ei frawd hŷn, John, a oedd wedi ymgartrefu yn y ddinas ers rhai blynyddoedd ac yn flaenor yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Fitzclarence Street. Gweithiai John i gwmni John Evans & Co. Ltd., cyflenwyr adeiladwyr, yn Soho Street. Yn naturiol ymunodd Robert â'r cwmni hwn a bu'n gysylltiedig ag ef, ac yn uchel iawn ei barch ynddo, tan ddiwedd ei oes.  John Evans oedd yr hynaf o bedwar brawd a Robert oedd yr ieuengaf. Daeth John i Lerpwl ym 1870 a Robert ym 1889. Addysgwyd Robert yn y Liverpool Institute (ysgol nos a ddarparai addysg ragorol ym meysydd mathemateg, peirianneg a thechnoleg) ac ymunodd â'i frawd yn y busnes maes o law. Daeth yn gwmni cyfyngedig ym 1911, gyda'r ddau frawd yn dod yn gyfarwyddwyr arno. Fel ei frawd, daeth Robert hefyd yn flaenor yn eglwys Fitzclarence Street, a hynny ym 1914. Priododd â merch William Evans, Y.H., Silvermere, Anfield, a oedd yn un o hoelion wyth cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl bryd hynny ac a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Lerpwl. Er nad oedd yn gryf ei iechyd, roedd Robert yn weithiwr caled a chydwybodol a bu'n gadeirydd y Builders' Merchants Association am gyfnod. Hefyd adeiladodd lawer o dai yn ardaloedd Seacombe, Aigburth a'r Dingle, ar gyrion dinas Lerpwl.<ref>J.R. Jones, ''The Welsh Builder on Merseyside'', (Liverpool, 1946), tt.37-8.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. J.R. Jones, ''The Welsh Builder on Merseyside'', (Liverpool, 1946), tt.37-8.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Adeiladwyr]]

Fersiwn yn ôl 10:44, 17 Rhagfyr 2022

Ganed Robert (Bob) Evans (1875-1927) ym mhlwyf Llandwrog ym 1875 a daeth i amlygrwydd fel adeiladwr a dyn busnes yn Lerpwl.

Daeth i Lerpwl yn fachgen 14 oed i'w addysgu dan ofal ei frawd hŷn, John, a oedd wedi ymgartrefu yn y ddinas ers rhai blynyddoedd ac yn flaenor yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Fitzclarence Street. Gweithiai John i gwmni John Evans & Co. Ltd., cyflenwyr adeiladwyr, yn Soho Street. Yn naturiol ymunodd Robert â'r cwmni hwn a bu'n gysylltiedig ag ef, ac yn uchel iawn ei barch ynddo, tan ddiwedd ei oes. John Evans oedd yr hynaf o bedwar brawd a Robert oedd yr ieuengaf. Daeth John i Lerpwl ym 1870 a Robert ym 1889. Addysgwyd Robert yn y Liverpool Institute (ysgol nos a ddarparai addysg ragorol ym meysydd mathemateg, peirianneg a thechnoleg) ac ymunodd â'i frawd yn y busnes maes o law. Daeth yn gwmni cyfyngedig ym 1911, gyda'r ddau frawd yn dod yn gyfarwyddwyr arno. Fel ei frawd, daeth Robert hefyd yn flaenor yn eglwys Fitzclarence Street, a hynny ym 1914. Priododd â merch William Evans, Y.H., Silvermere, Anfield, a oedd yn un o hoelion wyth cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl bryd hynny ac a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Lerpwl. Er nad oedd yn gryf ei iechyd, roedd Robert yn weithiwr caled a chydwybodol a bu'n gadeirydd y Builders' Merchants Association am gyfnod. Hefyd adeiladodd lawer o dai yn ardaloedd Seacombe, Aigburth a'r Dingle, ar gyrion dinas Lerpwl.[1]

Cyfeiriadau

  1. J.R. Jones, The Welsh Builder on Merseyside, (Liverpool, 1946), tt.37-8.