Seindorf Arian Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian ''Frenhinol'' Dyffryn Nantlle'".
Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian ''Frenhinol'' Dyffryn Nantlle'".


Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]], yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrtgh ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.<ref>''South Wales Daily News'', 24.7.1899, t.4</ref>
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]], yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrth ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.<ref>''South Wales Daily News'', 24.7.1899, t.4</ref>


Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn ''Y Brython'' mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:
Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn ''Y Brython'' mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:
Llinell 10: Llinell 10:
Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd [[Tom Sarah]], ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab [[John Sarah (Pencerdd Cernyw)]], a aeth ymlaen i fod yn arweinydd [[Band Moeltryfan]].
Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd [[Tom Sarah]], ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab [[John Sarah (Pencerdd Cernyw)]], a aeth ymlaen i fod yn arweinydd [[Band Moeltryfan]].


Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhalysarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.<ref>Gwefan Nantlle.com, [http://www.nantlle.com/band-dyffryn-nantlle-cymraeg.htm], cyrchwyd 25..11.2022</ref>
Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhal-y-sarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.<ref>Gwefan Nantlle.com, [http://www.nantlle.com/band-dyffryn-nantlle-cymraeg.htm], cyrchwyd 25..11.2022</ref>


Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a [[Seindorf Trefor]] ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a [[Seindorf Trefor]] ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.

Fersiwn yn ôl 15:26, 26 Tachwedd 2022

Sefydlwyd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Rywbryd tua 1887-1888 newidwyd offerynnau pres y band am rai arian, gan newid yr enw a oedd erbyn hynny'n "Band Pres Dyffryn Nantlle" i "Fand Arian Dyffryn Nantlle".[1]

Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle'".

Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill Dyffryn Nantlle, yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrth ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.[2]

Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn Y Brython mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:

Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, canasant hyd y strydoedd, ac amryw o laslancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nanlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd |Seindorf Deulyn a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte?[3]

Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd Tom Sarah, ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab John Sarah (Pencerdd Cernyw), a aeth ymlaen i fod yn arweinydd Band Moeltryfan.

Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn Nhal-y-sarn. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhal-y-sarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.[4]

Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.

{[eginyn}}

Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 13.6.1888, t.8
  2. South Wales Daily News, 24.7.1899, t.4
  3. Y Brython Cymreig, 6.1.1910, t.5
  4. Gwefan Nantlle.com, [1], cyrchwyd 25..11.2022