Chwarel Biggs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Chwarel Biggs''' yn un o | Roedd '''Chwarel Biggs''' yn un o chwareli gorau [[Dyffryn Nantlle]] o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (''New Quarry''). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led ac yn weddol ddwfn, felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffordd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir [[Cwmni Llechi Tal-y-sarn]].<ref>Thomas Farries, ''A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice''(Llundain, 1860), t.4. Mae hyn yn cynnwys hysbyseb ar ffurf copi o'r prosbectws am gyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tan-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[https://books.google.co.uk/books?id=26sDAAAAQAAJ&pg=PT8&lpg=PT8&dq=%22Talysarn+Slate+Company%22&source=bl&ots=TfuOFk82n1&sig=ACfU3U2Gf1tTleMKzhhXjK-tPL_9lmP71A&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiS9-TxlrX7AhXiSkEAHaugBncQ6AF6BAgZEAM#v=onepage&q=%22Talysarn%20Slate%20Company%22&f=false].</ref> Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr [[Chwarel Tal-y-sarn]]. | ||
Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi ar ôl un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa bryd hynny.<ref>Archifdy Glynllifon, XD2/23499</ref> | Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi ar ôl un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa bryd hynny.<ref>Archifdy Glynllifon, XD2/23499</ref> |
Fersiwn yn ôl 10:27, 21 Tachwedd 2022
Roedd Chwarel Biggs yn un o chwareli gorau Dyffryn Nantlle o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (New Quarry). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led ac yn weddol ddwfn, felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffordd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn.
Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi ar ôl un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa bryd hynny.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. Mae hyn yn cynnwys hysbyseb ar ffurf copi o'r prosbectws am gyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tan-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[1].
- ↑ Archifdy Glynllifon, XD2/23499