Chwarel Biggs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Chwarel Biggs''' yn un or chwareli gorau [[Dyffryn Nantlle]] o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (''New Quarry''). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led, ac yn weddol ddwfn ac felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffodd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd  tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir [[Cwmni Llechi Tal-y-sarn]].<ref>Thomas Farries, ''A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice''(Llundain, 1860), t.4. Mae hyn yn cynnwys hysbyseb  ar ffurf copi o'r prosbectws am gyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tan-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[https://books.google.co.uk/books?id=26sDAAAAQAAJ&pg=PT8&lpg=PT8&dq=%22Talysarn+Slate+Company%22&source=bl&ots=TfuOFk82n1&sig=ACfU3U2Gf1tTleMKzhhXjK-tPL_9lmP71A&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiS9-TxlrX7AhXiSkEAHaugBncQ6AF6BAgZEAM#v=onepage&q=%22Talysarn%20Slate%20Company%22&f=false].</ref> Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr [[Chwarel Tal-y-sarn]].  
Roedd '''Chwarel Biggs''' yn un o'r chwareli gorau [[Dyffryn Nantlle]] o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (''New Quarry''). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led ac yn weddol ddwfn, felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffodd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd  tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir [[Cwmni Llechi Tal-y-sarn]].<ref>Thomas Farries, ''A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice''(Llundain, 1860), t.4. Mae hyn yn cynnwys hysbyseb  ar ffurf copi o'r prosbectws am gyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tan-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[https://books.google.co.uk/books?id=26sDAAAAQAAJ&pg=PT8&lpg=PT8&dq=%22Talysarn+Slate+Company%22&source=bl&ots=TfuOFk82n1&sig=ACfU3U2Gf1tTleMKzhhXjK-tPL_9lmP71A&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiS9-TxlrX7AhXiSkEAHaugBncQ6AF6BAgZEAM#v=onepage&q=%22Talysarn%20Slate%20Company%22&f=false].</ref> Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr [[Chwarel Tal-y-sarn]].  


Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi yn ôl enw un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa y pryd hynny.<ref>Archifdy Glynllifon, XD2/23499</ref>
Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi ar ôl un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa bryd hynny.<ref>Archifdy Glynllifon, XD2/23499</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Chwareli]]
[[Categori:Chwareli]]

Fersiwn yn ôl 11:24, 21 Tachwedd 2022

Roedd Chwarel Biggs yn un o'r chwareli gorau Dyffryn Nantlle o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (New Quarry). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led ac yn weddol ddwfn, felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffodd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn.

Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi ar ôl un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa bryd hynny.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. Mae hyn yn cynnwys hysbyseb ar ffurf copi o'r prosbectws am gyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tan-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[1].
  2. Archifdy Glynllifon, XD2/23499