Aelhaearn Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:


===Cyfeiriadau===
===Cyfeiriadau===
#Ellyll Hyll a Ballu Mary Jones Gwasg Utgorn Cymru 2008
#''Ellyll Hyll a Ballu'', gan  Mary JonesGwasg Utgorn Cymru 2008
#Straeon Arfon
#Straeon Arfon

Fersiwn yn ôl 13:14, 20 Ionawr 2018

Chwedl Aelhaearn Sant

Mae'r stori am y gŵr yma yn chael ei enw yn sicr yn dod o fyd chwedloniaeth. Byddai Beuno Sant yn aml iawn yn crwydro ar hyd y glannau o'i glas yng Nghlynnog Fawr i'r de-orllewini ac at fynyddoedd Yr Eifl. Llafarganai ei bader wrth gerdded. Roedd y mynachod eraill yn poeni amdano oherwydd bod y coedwigoedd y cerddai Beuno trwyddynt yn llawn bwystfilod rheibus. Dyma benderfynu ei ddilyn un noson, ac wedi cyrraedd godre'r Eifl gwelsant Beuno yn gweddio'n daer am i Dduw ei fendithio'i glas yng Nghlynnog. Yn sydyn, o'r goedwig, rhuthrodd bleiddiaid mawr a ffyrnig ac ymaflyd yn un o ffrindiau Beuno a'i rwygo yn ddarnau! Rhedodd Beuno ato i geisio ei achub a diflannodd y bleiddiaid. Bu Beuno a'i ffrindiau am amser maith yn casglu'r darnau ymhob cwr o'r goedwig- y breichiau fan hyn,y coesau fan draw, a'r pen yng ngwaelod gallt. Buont yno trwy'r nos yn trwsio'r mynach fel petaent yn gwneud jig-so. Roedd Beuno yn enwog am roi bywyd i'r meirw, ond er ei holl ymdrechion ni lwyddodd y tro hwn. Sylwodd nad oedd y corff yn gyfan a bod un o'r aeliau'r mynach ar goll. Chwiliwyd drachefn am yr asgwrn hwn ond ni chafwyd hyd iddo. Cafodd Beuno syniad. Gwelodd ffurel haearn ar waelod ffon un o'r mynachod. Fe'i tynnodd, a'i churo â charreg i'w chael y siâp iawn. Gosododd yr "ael o'r haearn" yn ofalus ar wyneb y corff a gweddio'n daerach fyth. Daeth y dyn yn ei ôl yn fyw, ac fe'i galwyd yn Aelhaearn. Cododd eglwys yno wrth droed yr Eifl. A phan fydd y gwynt yn chwythu o gyfeiriad Clynnog gallai Aelhaearn glywed tinc cloch eglwys Beuno a'i atgoffa sut y cafodd ei enw.

Cyfeiriadau

  1. Ellyll Hyll a Ballu, gan Mary Jones. Gwasg Utgorn Cymru 2008
  2. Straeon Arfon