John Jones (Maldwynog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gŵr o blwyf Carno, Sir Drefaldwyn oedd '''John Jones (Maldwynog)''' (1858-1894). Roedd o’n fab i Thomas Jones, saer a Catherine Jones (Lloyd gynt), y t...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:


Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] i chwilio yno am waith. Yno briododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf [[Llanllyfni]] ym 1859. Cawson nhw un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891</ref> Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo fo ei hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]] ym 1888<ref>''Y Genedl Gymreig'', 2.1.1889, t.6</ref> a Chylchwyl [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon]] y Nadolig canlynol.<ref>''Y Genedl Gymreig''1.1.1890, t.8</ref>
Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] i chwilio yno am waith. Yno briododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf [[Llanllyfni]] ym 1859. Cawson nhw un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891</ref> Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo fo ei hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]] ym 1888<ref>''Y Genedl Gymreig'', 2.1.1889, t.6</ref> a Chylchwyl [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon]] y Nadolig canlynol.<ref>''Y Genedl Gymreig''1.1.1890, t.8</ref>
Dichon iddo gyflawni sawl gamp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur ''Y Celt'' fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi mabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol!<ref>''Y Celt'', 8.1.1886, t.8</ref> Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur talentau beirdd y dyffryn yn ''Y Genedl Gymreig''ym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.
Dichon iddo gyflawni sawl gamp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur ''Y Celt'' fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi mabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol!<ref>''Y Celt'', 8.1.1886, t.8</ref> Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur talentau beirdd y dyffryn yn ''Y Genedl Gymreig''ym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.<ref>''Y Genedfl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref>


Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog edrych am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ar ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.<''South Wales Daily News'', 26.2.1894, t6</ref> Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.<ref>''Tarian y Gweithiwr'', 12.7.1894, t.2<ref>
Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog edrych am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ar ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.<ref>''South Wales Daily News'', 26.2.1894, t6</ref> Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.<ref>''Tarian y Gweithiwr'', 12.7.1894, t.2</ref>
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Chwarelwyr]]
[[Categori:Chwarelwyr]]

Fersiwn yn ôl 19:41, 30 Hydref 2022

Gŵr o blwyf Carno, Sir Drefaldwyn oedd John Jones (Maldwynog) (1858-1894). Roedd o’n fab i Thomas Jones, saer a Catherine Jones (Lloyd gynt), y teulu’n byw gydag Edward Lloyd, brawd Catherine, a oedd yn ffermio Wylfa, Glan’rafon, Carno.[1]

Nid hawdd yw canfod symudiadau gweithwyr sydd ag enwau cyffredin megis John Jones, ond mae’n bosibl iddo dreulio amser yn y de. Cyhoeddodd englyn yn y Pontypridd Chronicle yn gynnar ym 1882.[2], a phrin y byddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod yn (neu wedi bod yn) byw yn ardal y papur hwnnw am gyfnod.

Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i Ddyffryn Nantlle i chwilio yno am waith. Yno briododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf Llanllyfni ym 1859. Cawson nhw un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.[3] Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo fo ei hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol Capel Bethel (MC), Pen-y-groes ym 1888[4] a Chylchwyl Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon y Nadolig canlynol.[5] Dichon iddo gyflawni sawl gamp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur Y Celt fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi mabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol![6] Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur talentau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreigym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[7]

Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog edrych am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ar ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.[8] Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.[9]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Carno, 1861
  2. Pontypridd Chronicle, 24.1.1882, t.3
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891
  4. Y Genedl Gymreig, 2.1.1889, t.6
  5. Y Genedl Gymreig1.1.1890, t.8
  6. Y Celt, 8.1.1886, t.8
  7. Y Genedfl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  8. South Wales Daily News, 26.2.1894, t6
  9. Tarian y Gweithiwr, 12.7.1894, t.2