Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’. Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad [[Dyffryn Nantlle]] oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g. | Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.<ref>''op.cit.'', t.7</ref> Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad [[Dyffryn Nantlle]] oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g. | ||
Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn: | Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn: | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon. | Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon. | ||
[[Delwedd:Tabl beirdd.png|bawd|de|400px|Llythyr y Pwyswr]] | |||
*Glanllyfnwy | *Glanllyfnwy | ||
*Hywel Tudur | *Hywel Tudur |
Fersiwn yn ôl 15:29, 12 Hydref 2022
Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.[1] Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.
Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn:
TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.
Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffenodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:
Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.
Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.
- Glanllyfnwy
- Hywel Tudur
- J. Machreth Rees
- Parch D. Jones
- Howel Cefni
- Anant
- G. (Geraint) Owen
- Mawrthfab
- Maldwynog
- Trebor Aled
- Aled Ddu
- Croesfryn
- H. H. (Gwelltyn)
- Ioan ap Ioan
- Owen Meirig
- Ioan Eifion
- Ieuan Nebo
- Iolo Glan Twrog
Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf.
Cyfeiriadau
- ↑ op.cit., t.7