Gwaith brics Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Am ran helaeth o'r 20g bu '''gwaith brics''' yn Nhrefor, yn gysylltiedig â Chwarel yr Eifl. Sefydlwyd y gwaith brics, a oedd ar safle gerllaw swyddfa'r...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Am ran helaeth o'r 20g bu '''gwaith brics''' yn Nhrefor, yn gysylltiedig â Chwarel yr Eifl.  
Am ran helaeth o'r 20g bu '''gwaith brics''' yn [[Trefor|Nhrefor]], yn gysylltiedig â [[Chwarel yr Eifl]].  


Sefydlwyd y gwaith brics, a oedd ar safle gerllaw swyddfa'r chwarel - yr Offis i bobl Trefor -  a dros y ffordd â rhes dai Trem y Môr (Sea View yn wreiddiol), gan gwmni'r chwarel a bu'n cyflogi cryn nifer o weithwyr am gyfnod sylweddol. Gan fod cymaint o wastraff ar gael gerllaw o Chwarel yr Eifl, y gellid ei falu'n llwch a'i gymysgu â sment i gynhyrchu brics, roedd digon o ddeunydd crai i'w gael heb orfod talu amdano na'i gludo ymhell. Brics adeiladu llwyd a gynhyrchid gan mwyaf, ond yn ystod cyfnod diweddarach y gwaith brics dechreuwyd cynhyrchu rhai o wahanol liwiau a hefyd ddeunyddiau fel pyst ffensio concrid a lintelydd. Lle digon afiach i weithio ynddo oedd y gwaith brics gyda llwch trwchus ymhobman ac yn sicr ni fyddai'n cydymffurfio â gofynion presennol iechyd a diogelwch. Cyn ei foderneiddio roedd dau beiriant cynhyrchu brics yno, gyda dau o weithwyr wrth bob un ar eu tro yn codi'r brics gwlybion fel roeddent yn ymddangos o grombil y peiriannau a'u gosod ar fyrddau pwrpasol ar goesau. Yna ar ôl i 500 o frics gael eu gosod ar y bwrdd byddai'n cael ei symud oddi yno gan beiriant ''forklift'' a'i gludo gerllaw i'r brics sychu a deuid â bwrdd gwag newydd i gymryd ei le - gwaith diflas ac undonnog a dweud y lleiaf! Yn dibynnu ar y galw am frics ar y pryd byddai miloedd lawer ohonynt wedi eu stacio ar y safle ar brydiau. Fe barhaodd y gwaith brics i weithredu am nifer o flynyddoedd ar ôl i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Bu ym meddiant gwahanol berchenogion yn ystod y cyfnod hwnnw a chafwyd gwared ar yr hen beiriannau cynhyrchu gwreiddiol a gosodwyd peiriannau mwy modern ac awtomatig, a oedd wedi eu cartrefu o fewn sied fawr newydd, a bu hynny'n fodd i liniaru peth ar y llwch. Yr olaf i gynhyrchu brics yno oedd dyn busnes o'r enw Keith Carrier o ardal Bae Colwyn, ond daeth y gwaith i ben at ddiwedd y 1990au.  
Sefydlwyd y gwaith brics, a oedd ar safle gerllaw swyddfa'r chwarel - yr [[Yr Hen Offis|Offis]] i bobl Trefor -  a dros y ffordd â rhes dai Trem y Môr (Sea View yn wreiddiol), gan gwmni'r chwarel a bu'n cyflogi cryn nifer o weithwyr am gyfnod sylweddol. Gan fod cymaint o wastraff ar gael gerllaw o Chwarel yr Eifl, y gellid ei falu'n llwch a'i gymysgu â sment i gynhyrchu brics, roedd digon o ddeunydd crai i'w gael heb orfod talu amdano na'i gludo ymhell. Brics adeiladu llwyd a gynhyrchid gan mwyaf, ond yn ystod cyfnod diweddarach y gwaith brics dechreuwyd cynhyrchu rhai o wahanol liwiau a hefyd ddeunyddiau fel pyst ffensio concrid a lintelydd. Lle digon afiach i weithio ynddo oedd y gwaith brics gyda llwch trwchus ymhobman ac yn sicr ni fyddai'n cydymffurfio â gofynion presennol iechyd a diogelwch. Cyn ei foderneiddio roedd dau beiriant cynhyrchu brics yno, gyda dau o weithwyr wrth bob un ar eu tro yn codi'r brics gwlybion fel roeddent yn ymddangos o grombil y peiriannau a'u gosod ar fyrddau pwrpasol ar goesau. Yna ar ôl i 500 o frics gael eu gosod ar y bwrdd byddai'n cael ei symud oddi yno gan beiriant ''forklift'' a'i gludo gerllaw i'r brics sychu a deuid â bwrdd gwag newydd i gymryd ei le - gwaith diflas ac undonnog a dweud y lleiaf! Yn dibynnu ar y galw am frics ar y pryd byddai miloedd lawer ohonynt wedi eu stacio ar y safle ar brydiau. Fe barhaodd y gwaith brics i weithredu am nifer o flynyddoedd ar ôl i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Bu ym meddiant gwahanol berchenogion yn ystod y cyfnod hwnnw a chafwyd gwared ar yr hen beiriannau cynhyrchu gwreiddiol a gosodwyd peiriannau mwy modern ac awtomatig, a oedd wedi eu cartrefu o fewn sied fawr newydd, a bu hynny'n fodd i liniaru peth ar y llwch. Yr olaf i gynhyrchu brics yno oedd dyn busnes o'r enw Keith Carrier o ardal Bae Colwyn, ond daeth y gwaith i ben at ddiwedd y 1990au.  


Yn rhan isaf safle'r gwaith brics bu gwaith tarmacadam hefyd yn gweithredu am flynyddoedd cyn cau'r chwarel ym 1971. Cludid cyflenwadau o fetlin o'r chwarel i'r gwaith hwn lle byddent yn cael eu cymysgu â thar ar gyfer wynebu ffyrdd. Byddai aroglau tar cryf o gwmpas y lle'n gyson ac aeth ar dân ar o leiaf un achlysur. Gyda chau Chwarel yr Eifl daeth y gwaith tar i ben hefyd yr un pryd ac yn ystod y blynyddoedd dilynol dymchwelwyd yr holl beirianwaith fel haearn sgrap.  
Yn rhan isaf safle'r gwaith brics bu gwaith tarmacadam hefyd yn gweithredu am flynyddoedd cyn cau'r chwarel ym 1971. Cludid cyflenwadau o fetlin o'r chwarel i'r gwaith hwn lle byddent yn cael eu cymysgu â thar ar gyfer wynebu ffyrdd. Byddai aroglau tar cryf o gwmpas y lle'n gyson ac aeth ar dân ar o leiaf un achlysur. Gyda chau Chwarel yr Eifl daeth y gwaith tar i ben hefyd yr un pryd ac yn ystod y blynyddoedd dilynol dymchwelwyd yr holl beirianwaith fel haearn sgrap.  


Erbyn hyn mae safle'r gwaith brics mewn cyflwr enbydus ac mae'n drueni ei weld.
Erbyn hyn mae safle'r gwaith brics mewn cyflwr enbydus ac mae'n drueni ei weld.
[[Categori:Diwydiant a masnach]]

Fersiwn yn ôl 18:32, 10 Hydref 2022

Am ran helaeth o'r 20g bu gwaith brics yn Nhrefor, yn gysylltiedig â Chwarel yr Eifl.

Sefydlwyd y gwaith brics, a oedd ar safle gerllaw swyddfa'r chwarel - yr Offis i bobl Trefor - a dros y ffordd â rhes dai Trem y Môr (Sea View yn wreiddiol), gan gwmni'r chwarel a bu'n cyflogi cryn nifer o weithwyr am gyfnod sylweddol. Gan fod cymaint o wastraff ar gael gerllaw o Chwarel yr Eifl, y gellid ei falu'n llwch a'i gymysgu â sment i gynhyrchu brics, roedd digon o ddeunydd crai i'w gael heb orfod talu amdano na'i gludo ymhell. Brics adeiladu llwyd a gynhyrchid gan mwyaf, ond yn ystod cyfnod diweddarach y gwaith brics dechreuwyd cynhyrchu rhai o wahanol liwiau a hefyd ddeunyddiau fel pyst ffensio concrid a lintelydd. Lle digon afiach i weithio ynddo oedd y gwaith brics gyda llwch trwchus ymhobman ac yn sicr ni fyddai'n cydymffurfio â gofynion presennol iechyd a diogelwch. Cyn ei foderneiddio roedd dau beiriant cynhyrchu brics yno, gyda dau o weithwyr wrth bob un ar eu tro yn codi'r brics gwlybion fel roeddent yn ymddangos o grombil y peiriannau a'u gosod ar fyrddau pwrpasol ar goesau. Yna ar ôl i 500 o frics gael eu gosod ar y bwrdd byddai'n cael ei symud oddi yno gan beiriant forklift a'i gludo gerllaw i'r brics sychu a deuid â bwrdd gwag newydd i gymryd ei le - gwaith diflas ac undonnog a dweud y lleiaf! Yn dibynnu ar y galw am frics ar y pryd byddai miloedd lawer ohonynt wedi eu stacio ar y safle ar brydiau. Fe barhaodd y gwaith brics i weithredu am nifer o flynyddoedd ar ôl i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Bu ym meddiant gwahanol berchenogion yn ystod y cyfnod hwnnw a chafwyd gwared ar yr hen beiriannau cynhyrchu gwreiddiol a gosodwyd peiriannau mwy modern ac awtomatig, a oedd wedi eu cartrefu o fewn sied fawr newydd, a bu hynny'n fodd i liniaru peth ar y llwch. Yr olaf i gynhyrchu brics yno oedd dyn busnes o'r enw Keith Carrier o ardal Bae Colwyn, ond daeth y gwaith i ben at ddiwedd y 1990au.

Yn rhan isaf safle'r gwaith brics bu gwaith tarmacadam hefyd yn gweithredu am flynyddoedd cyn cau'r chwarel ym 1971. Cludid cyflenwadau o fetlin o'r chwarel i'r gwaith hwn lle byddent yn cael eu cymysgu â thar ar gyfer wynebu ffyrdd. Byddai aroglau tar cryf o gwmpas y lle'n gyson ac aeth ar dân ar o leiaf un achlysur. Gyda chau Chwarel yr Eifl daeth y gwaith tar i ben hefyd yr un pryd ac yn ystod y blynyddoedd dilynol dymchwelwyd yr holl beirianwaith fel haearn sgrap.

Erbyn hyn mae safle'r gwaith brics mewn cyflwr enbydus ac mae'n drueni ei weld.