Cofgolofn Ioan Arfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Amlinelliad hanes cofgolofn Ioan Arfon - John Owen Griffith (1828 -1881) |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Wrth deithio ar hyd yr hen lon bost rhwng Dolydd a’r Groeslon mae mynwent anenwadol ardal Llandwrog i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn | Wrth deithio ar hyd yr hen lon bost rhwng [[Dolydd]] a’r [[Y Groeslon|Groeslon]] mae mynwent anenwadol ardal [[Llandwrog]] i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn'rodyn cyferbyn i safle'r [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon|capel]] o’r un enw sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg ym mlaen y fynwent sef yr un ar fedd [[John Owen Griffith (Ioan Arfon)|John Owen Griffith]] (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-OWE-1828]</ref> | ||
Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr yn fab i chwarelwr ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo priodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a gyda’i wraig Ann agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, bardd a chyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).<ref>https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ART-1860</ref> | Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr yn fab i chwarelwr ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo priodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a gyda’i wraig Ann agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, bardd a chyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GRIF-ART-1860]</ref> | ||
Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan llenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Gorsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a chynigodd cyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.<ref>Y Genedl Gymreig 1 Rhagfyr 1881 | Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan llenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Gorsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a chynigodd cyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 1 Rhagfyr 1881 [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4441496/4441501/8/]</ref> | ||
https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4441496/4441501/8/ | |||
</ref> | |||
Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd | Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd ddiddordeb mewn Daeareg yn deillio o’i ddyddiau yn gweithio yn y chwareli a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol gan gynnwys ei aelodaeth o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874.<ref>Erthygl Wicipedia ar yr Undeb, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Undeb_Chwarelwyr_Gogledd_Cymru]</ref> | ||
Bu farw yn gymharol ifanc, deuddydd yn unig wedi ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un | Bu farw yn gymharol ifanc, deuddydd yn unig wedi ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un a gyfrannodd gymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog (cyfwerth dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon a’i dadorchuddio mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.<ref>''Y Genedl Gymreig'' 19 Rhagfyr 1883, t.7</ref> | ||
Mae darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill â farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nôd cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tanodd mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed." | |||
O dan yr uchod y mae cerdd o eiddo Richard Davies (Tafolog)<ref>https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1830#?c=0&m=0&s=0&cv=40&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4974950%2Fmanifest.json&xywh=624%2C467%2C841%2C917</ref> | O dan yr uchod y mae cerdd o eiddo Richard Davies (Tafolog)<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-RIC-1830#?c=0&m=0&s=0&cv=40&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4974950%2Fmanifest.json&xywh=624%2C467%2C841%2C917]</ref>: | ||
Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod" | Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod" | ||
Llinell 22: | Llinell 20: | ||
Gysegra oesau i'w gwsg oer isod. | Gysegra oesau i'w gwsg oer isod. | ||
Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun | Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun: | ||
Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail | Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail | ||
Llinell 29: | Llinell 27: | ||
I ddirwyn yr einioes i derfyn. | I ddirwyn yr einioes i derfyn. | ||
Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)<ref> | Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/David_Griffith_(Clwydfardd)]</ref>, nad oedd yn perthyn i’r bardd, yn gweithredu fel yr Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd. | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Beirdd]] | |||
[[Categori:Cofebion]] |
Fersiwn yn ôl 16:04, 12 Medi 2022
Wrth deithio ar hyd yr hen lon bost rhwng Dolydd a’r Groeslon mae mynwent anenwadol ardal Llandwrog i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn'rodyn cyferbyn i safle'r capel o’r un enw sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg ym mlaen y fynwent sef yr un ar fedd John Owen Griffith (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.[1]
Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr yn fab i chwarelwr ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo priodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a gyda’i wraig Ann agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, bardd a chyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).[2]
Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan llenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Gorsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a chynigodd cyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.[3]
Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd ddiddordeb mewn Daeareg yn deillio o’i ddyddiau yn gweithio yn y chwareli a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol gan gynnwys ei aelodaeth o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874.[4]
Bu farw yn gymharol ifanc, deuddydd yn unig wedi ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un a gyfrannodd gymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog (cyfwerth dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon a’i dadorchuddio mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.[5]
Mae darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill â farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nôd cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tanodd mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed."
O dan yr uchod y mae cerdd o eiddo Richard Davies (Tafolog)[6]:
Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod" 'Roes edmygedd, uwch du fedd, yn dafod I ddywed i seraph o fardd disorod, A beirniad, dewi obry'n y tywod Wladgar Ioan, glân ei glod, - eu dagrau Gysegra oesau i'w gwsg oer isod.
Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun:
Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail A gwywo'r un amser a'r rhosyn; Nid oes i fy nheimlad un adeg yn ail I ddirwyn yr einioes i derfyn.
Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)[7], nad oedd yn perthyn i’r bardd, yn gweithredu fel yr Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd.