Edward Preston: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ni wyddys llawer am '''Edward Preston''' cyn iddo ddod i ardal Caernarfon ym 1854. Ym 1856, fe gymerodd brydles ar | Peiriannydd sifil oedd '''Edward Preston''', ond yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, prydleswr Rheilffordd Nantlle ydoedd. | ||
Ni wyddys llawer am '''Edward Preston''' cyn iddo ddod i ardal Caernarfon tua 1855/6. Mae'n bosibl iddo hanu o Sir y Fflint, ac mae'n bosibl hefyd ei fod â brawd oedd yn fargyfreithiwr yng Nghaer. Pan geir cyfeiriad ato tu allan i gyd-destun rheilffyrdd, fe'i ddisgrifir yn "Esq.", sydd yn tueddu awgrymu ei fod yn perthyn i'r dosbarth tirfeddianwyr, dynion busnes llewyrchus a gŵyr â phroffesiwn. Yn ôl pob tebyg, dyn ifanc ydoedd y pryd hynny, gan fod ei wraig Ellen Maria, wedi ei geni (yn Llundain) ym 1835, a ganwyd eu merch gyntaf, Mary, ym 1855. Roedd ef a'i deulu ifanc yn byw yn y Tower, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug ym Mai 1854. Erbyn Gorffennaf 1855 roeddynt yn byw yn Glyn House, Conwy. Symudodd, mae'n debyg, i Glan Helen, Lôn Parc, Caernarfon yn fuan wedyn wrth iddo ymgymryd â phrydles [[Rheilffordd Nantlle]]. Fe ddisgrifiodd ei hun fel peirianydd sifil, a bu'n gweithio fel yr is-gontractor i wireddu cynllunio prif beirianwyr Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a godwyd tua 1861-3. | |||
Roedd yn weddol hael at achosion eglwysig, gan gyfrannu at gronfa i helpu [[Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon]] a sefydlu eglwys ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn nhref Caernarfon, ymysg rhai eraill.<ref>Llawer o'r ddau baragraff uchod wedi ei gywaino golofnau cyhoeddiadau'r ''North Wales Chronicle'', a Chyfrifiad 1861 am Gaernarfon.</ref> | |||
Ym 1856, fel y dywedwyd eisoes, fe gymerodd brydles ar Reilfordd Nantlle, gan sefydlu amserlen i deithwyr ym mis Awst y flwyddyn honno. Ceir nifer o awgrymiadau niwlog cyn hynny fod pobl yn cael teithio ar y rheilffordd ond am y tro cyntaf roedd y trenau hyn yn cael eu hysbysebu (er bod eu rhedeg hwy'n mynd yn groes i'r Ddeddf a awdurdododd adeiladu'r lein ym 1825). | |||
Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno. | Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno. | ||
Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin]] tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef [[Alexander Marshall]].<ref>JIC Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf 1, passim</ref> | Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin]] tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef [[Alexander Marshall]].<ref>JIC Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf 1, passim</ref> | ||
Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf. Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, Benjamin Piercy, wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddenodd hwnnw Prston i fynd gydag ef. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yny Cyfrifiadau ar ôl 1861. Mae hyn yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain adeg y cyfrifiad nersaf, a gynhaliwyd ym 1871. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Rheilffyrdd]] | [[Categori:Rheilffyrdd]] |
Fersiwn yn ôl 18:24, 9 Medi 2018
Peiriannydd sifil oedd Edward Preston, ond yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, prydleswr Rheilffordd Nantlle ydoedd.
Ni wyddys llawer am Edward Preston cyn iddo ddod i ardal Caernarfon tua 1855/6. Mae'n bosibl iddo hanu o Sir y Fflint, ac mae'n bosibl hefyd ei fod â brawd oedd yn fargyfreithiwr yng Nghaer. Pan geir cyfeiriad ato tu allan i gyd-destun rheilffyrdd, fe'i ddisgrifir yn "Esq.", sydd yn tueddu awgrymu ei fod yn perthyn i'r dosbarth tirfeddianwyr, dynion busnes llewyrchus a gŵyr â phroffesiwn. Yn ôl pob tebyg, dyn ifanc ydoedd y pryd hynny, gan fod ei wraig Ellen Maria, wedi ei geni (yn Llundain) ym 1835, a ganwyd eu merch gyntaf, Mary, ym 1855. Roedd ef a'i deulu ifanc yn byw yn y Tower, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug ym Mai 1854. Erbyn Gorffennaf 1855 roeddynt yn byw yn Glyn House, Conwy. Symudodd, mae'n debyg, i Glan Helen, Lôn Parc, Caernarfon yn fuan wedyn wrth iddo ymgymryd â phrydles Rheilffordd Nantlle. Fe ddisgrifiodd ei hun fel peirianydd sifil, a bu'n gweithio fel yr is-gontractor i wireddu cynllunio prif beirianwyr Rheilffordd Conwy a Llanrwst, a godwyd tua 1861-3.
Roedd yn weddol hael at achosion eglwysig, gan gyfrannu at gronfa i helpu Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon a sefydlu eglwys ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn nhref Caernarfon, ymysg rhai eraill.[1]
Ym 1856, fel y dywedwyd eisoes, fe gymerodd brydles ar Reilfordd Nantlle, gan sefydlu amserlen i deithwyr ym mis Awst y flwyddyn honno. Ceir nifer o awgrymiadau niwlog cyn hynny fod pobl yn cael teithio ar y rheilffordd ond am y tro cyntaf roedd y trenau hyn yn cael eu hysbysebu (er bod eu rhedeg hwy'n mynd yn groes i'r Ddeddf a awdurdododd adeiladu'r lein ym 1825).
Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef Rheilffordd Sir Gaernarfon, a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno.
Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef Alexander Marshall.[2]
Gellid amau mai mynd tramor fu ei gam nesaf. Roedd y cyfnod prysur o godi rheilffyrdd yng Ngymru yn dirwyn i ben, ac roedd un o beirianwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon, Benjamin Piercy, wedi symud ymlaen i ynys Corsica ac wedyn i India. Tybed a ddenodd hwnnw Prston i fynd gydag ef. Beth bynnag am hynny, nid yw Edward Preston na'i deulu (oedd yn cynnwys o leiaf 3 phlentyn erbyn hynny) yn ymddangos yny Cyfrifiadau ar ôl 1861. Mae hyn yn tueddu awgrymu nad oeddynt ym Mhrydain adeg y cyfrifiad nersaf, a gynhaliwyd ym 1871.