Elan Closs Stephens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Academydd o Ddyffryn Nantlle yw '''Elan Closs Stephens''' Fe'i ganed ar 16 Mehefin 1948 yn Nhal-y-sarn. Mae hi'n arbeni...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Wedi cadeirio Chwarae Teg, y corff sy'n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn 2009 fe'i penodwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru|Llywodraeth Cynulliad Cymru fel cadeirydd y Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Yn 2006, bu'n gadeirydd ar '''Adroddiad Stephens''' yn adrodd ar ariannu a strwythur y celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yn aelod o Bwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol Llywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2010 cafodd ei phenodi yn aelod Cymru o Ymddiriedolaeth y BBC. Ym mis Gorffennaf 2017 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru. Roedd hyn yn dilyn atal yr ymgeisydd gwreiddiol, Carol Bell, gan Lywodraeth Cymru.

Rhwng 13 Mawrth 2017a 12 Mawrth 2021 bu'n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.
Rhwng 13 Mawrth 2017 a 12 Mawrth 2021 bu'n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.

Fersiwn yn ôl 19:57, 14 Chwefror 2022

Academydd o Ddyffryn Nantlle yw Elan Closs Stephens Fe'i ganed ar 16 Mehefin 1948 yn Nhal-y-sarn. Mae hi'n arbenigo mewn polisi diwylliannol a darlledu. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, a arweinir gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

Fe'i addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville, Rhydychen.

Mae hi'n Athro Emeritws Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth er mwyn galluogi prosiectau ymchwil â phartneriaid mewn diwydiant.

Ym 1998, fe'i penodwyd yn gadeirydd Awdurdod S4C gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llundain, a chfodd ei hail-benodi am ail dymor hyd at 2006. Roedd yn Llywodraethwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig tan 2007, a Chadeirydd ei bwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystod gwaith adnewyddu y Theatr Ffilm Cenedlaethol, Southbank Centre. Bu'n gadeirydd ar Bwyllgor Ymgynghorol Cymru y Y Cyngor Prydeinig tan 2011, a roedd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru, ac ymddiriedolwr/aelod o fwrdd Celfyddydau & Busnes.

Wedi cadeirio Chwarae Teg, y corff sy'n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn 2009 fe'i penodwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru|Llywodraeth Cynulliad Cymru fel cadeirydd y Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Yn 2006, bu'n gadeirydd ar Adroddiad Stephens yn adrodd ar ariannu a strwythur y celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yn aelod o Bwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol Llywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2010 cafodd ei phenodi yn aelod Cymru o Ymddiriedolaeth y BBC. Ym mis Gorffennaf 2017 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru. Roedd hyn yn dilyn atal yr ymgeisydd gwreiddiol, Carol Bell, gan Lywodraeth Cymru.

Rhwng 13 Mawrth 2017 a 12 Mawrth 2021 bu'n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.

Derbyniodd Elen Closs Stephens y CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2001 am ei gwasanaethau i ddarlledu a'r Gymraeg, a fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Dyfed ar gyfer 2012/13. Yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines 2019, fe'i dyrchafwyd i'r DBE am ei chyfraniad i Lywodraeth Cymru a’r byd darlledu, gan ei wneud yn Fonesig.

Priododd Dr Roy Stephens yn 1972 (bu farw yn 1989). Mae ganddi ddau o blant sydd vbellach yn oedolion.[1]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia. Erthygl am Elan Closs Stephens [1], cyrchwyd 14.2.2022