Morfa Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Morfa Dinlle''' yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth [[Dinas Dinlle]] a'r [[Y Foryd|Foryd]], o'r môr agored hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt a hyd yn oed yn bellach i gyfeiriad pentref [[Llandwrog]]. Fe'i hamgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan gychwyn ym 1808) ar ôl i'r holl dirfeddiannwr o bwys (namyn un) ym mhlwyfi Llandwrog a [[Llanwnda]] gydsynio. Yr un i wrthwynebu oedd y bonwr [[Bodvel Roberts]]. Y tirfeddianwyr, wrth gwrs, oedd yn elwa trwy ennill y rhan helaethaf o'r tir a sychwyd gan greu caeau braf eang, er bod peth o'r tir ymylol wedi ei gadw fel porfa i drigolion mwy distadl y plwyfi.
'''Morfa Dinlle''' yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth [[Dinas Dinlle]] a'r [[Y Foryd|Foryd]], o'r môr agored hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt, a hyd yn oed ymhellach i gyfeiriad pentref [[Llandwrog]]. Fe'i hamgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan ddechrau ym 1808) ar ôl i'r holl dirfeddianwyr o bwys (namyn un) ym mhlwyfi Llandwrog a [[Llanwnda]] gydsynio. Yr unig un i wrthwynebu oedd y bonwr [[Bodvel Roberts]]. Y tirfeddianwyr, wrth gwrs, oedd yn elwa trwy ennill y rhan helaethaf o'r tir a sychwyd gan greu caeau braf eang, er bod peth o'r tir ymylol wedi ei gadw fel tir pori i drigolion mwy distadl y plwyfi.

Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rhai a gafodd y tir gael mynediad at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylai'r llwybrau hyn i gyd, mae'n debyg, fod hyd heddiw'n llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd gwyrdd, ond bu peth cau ar lawer ohonynt, ac eraill wedi cau gyda thyfiant ers blynyddoedd.
Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rhai a gafodd y tir gael mynediad hwylus at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylai'r llwybrau hyn i gyd, mae'n debyg, fod yn llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd glas hyd heddiw, ond bu peth cau ar lawer ohonynt, ac eraill wedi cau gyda thyfiant ers blynyddoedd.

Mae rhan o'r morfa ger pertref Dinas Dinlle bellach yn gadwrfa natur lle gwneir ymdrech arbennig gan yr RSPB i gynyddu nifer y cornchwiglod sy'n nythu yno - ymdrech sydd wedi cael cryn lwyddiant. Mae'r ardal hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig leoedd  ar yr iseldir lleol lle clywir yr ehedydd yn canu erbyn hyn.

Fersiwn yn ôl 16:12, 16 Ionawr 2022

Morfa Dinlle yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth Dinas Dinlle a'r Foryd, o'r môr agored hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt, a hyd yn oed ymhellach i gyfeiriad pentref Llandwrog. Fe'i hamgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan ddechrau ym 1808) ar ôl i'r holl dirfeddianwyr o bwys (namyn un) ym mhlwyfi Llandwrog a Llanwnda gydsynio. Yr unig un i wrthwynebu oedd y bonwr Bodvel Roberts. Y tirfeddianwyr, wrth gwrs, oedd yn elwa trwy ennill y rhan helaethaf o'r tir a sychwyd gan greu caeau braf eang, er bod peth o'r tir ymylol wedi ei gadw fel tir pori i drigolion mwy distadl y plwyfi.

Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rhai a gafodd y tir gael mynediad hwylus at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylai'r llwybrau hyn i gyd, mae'n debyg, fod yn llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd glas hyd heddiw, ond bu peth cau ar lawer ohonynt, ac eraill wedi cau gyda thyfiant ers blynyddoedd.

Mae rhan o'r morfa ger pertref Dinas Dinlle bellach yn gadwrfa natur lle gwneir ymdrech arbennig gan yr RSPB i gynyddu nifer y cornchwiglod sy'n nythu yno - ymdrech sydd wedi cael cryn lwyddiant. Mae'r ardal hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig leoedd ar yr iseldir lleol lle clywir yr ehedydd yn canu erbyn hyn.

Gwireddwyd sychu'r tiroedd gwlyb yn bennaf trwy godi Morglawdd Dinas Dinlle. Mae llawer mwy o hanes yr amgáu i'w weld ar y dudalen honno.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma