Gwesty'r Nantlle Vale: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Adeilad sylweddol a godwyd yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn y 1860au<ref>Gwefan Heneb [http://www.heneb.co.uk/hlc/caernarfon-nantlle/caer7.html], cyrchwyd 6.`1.2022</ref> oedd '''Gwesty'r Nantlle Vale'''. Safai nid nepell o [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf]] newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am  godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.
Adeilad sylweddol a godwyd yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn y 1860au<ref>Gwefan Heneb [http://www.heneb.co.uk/hlc/caernarfon-nantlle/caer7.html], cyrchwyd 6.`1.2022</ref> oedd '''Gwesty'r Nantlle Vale'''. Safai nid nepell o [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf]] newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am  godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.  
 
Ym 1871, roedd chwarelwr ifanc, Thomas Griffith, a'i deulu'n byw yno, ac nid yw'r Cyfrifiad yn nodi fod yr adeilad yn westy - er bod un neu ddau o lojars yno: "Nantlle Vale" yn syml oedd enw'r adeilad. Erbyn 1881, fodd bynnag, nodwyd "Nantlle Vale Hotel" fel enw'r adeilad. Roedd Thomas Griffith yn dal yno, ond erbyn hynny, fe'i disgrifir fel Ceidwad Gwesty - er nad oedd yr un ymwelydd yn aros yno; yr un oedd y sefyllfa ym 1891 a 1901 - a Thomas Griffith a'i wraig wedi cynnal y busnes am fwy na 30 o flynyddoedd. Erbyn 1911, roedd ef a'i wraig wedi symud i Frondeg, Tal-y-sarn, a nododd Thomas Griffith ei fod yn "Westywr wedi ymneillduo". Erbyn hynny, roedd yn 66 oed a'i wraig Margaret yn 70 oed. Diddorol yw sylwi bod nifer o dafarndai (''inns'') yn cael ei nodi ar y Cyfrifiad, ond ni nodwyd ond un gwesty, sef y Nantlle Vale. Rhaid felly yr oedd yn sefydliad o well safon na'r tafarndai cyffredin, er iddi wasanaethu fel tŷ tafarn yn ogystal â llety.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-1911</ref>


[[Delwedd:Hysbyseb nantlle vale.png|bawd|de|400px|Hysbyseb y Carnarvon & Denbigh Herald, 1910]]
[[Delwedd:Hysbyseb nantlle vale.png|bawd|de|400px|Hysbyseb y Carnarvon & Denbigh Herald, 1910]]
Llinell 11: Llinell 13:


[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]
ERTHYGL HEB EI GORFFEN

Fersiwn yn ôl 13:56, 6 Ionawr 2022

Adeilad sylweddol a godwyd yn Nhal-y-sarn yn y 1860au[1] oedd Gwesty'r Nantlle Vale. Safai nid nepell o orsaf newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.

Ym 1871, roedd chwarelwr ifanc, Thomas Griffith, a'i deulu'n byw yno, ac nid yw'r Cyfrifiad yn nodi fod yr adeilad yn westy - er bod un neu ddau o lojars yno: "Nantlle Vale" yn syml oedd enw'r adeilad. Erbyn 1881, fodd bynnag, nodwyd "Nantlle Vale Hotel" fel enw'r adeilad. Roedd Thomas Griffith yn dal yno, ond erbyn hynny, fe'i disgrifir fel Ceidwad Gwesty - er nad oedd yr un ymwelydd yn aros yno; yr un oedd y sefyllfa ym 1891 a 1901 - a Thomas Griffith a'i wraig wedi cynnal y busnes am fwy na 30 o flynyddoedd. Erbyn 1911, roedd ef a'i wraig wedi symud i Frondeg, Tal-y-sarn, a nododd Thomas Griffith ei fod yn "Westywr wedi ymneillduo". Erbyn hynny, roedd yn 66 oed a'i wraig Margaret yn 70 oed. Diddorol yw sylwi bod nifer o dafarndai (inns) yn cael ei nodi ar y Cyfrifiad, ond ni nodwyd ond un gwesty, sef y Nantlle Vale. Rhaid felly yr oedd yn sefydliad o well safon na'r tafarndai cyffredin, er iddi wasanaethu fel tŷ tafarn yn ogystal â llety.[2]

Hysbyseb y Carnarvon & Denbigh Herald, 1910

Dyma oedd prif dafarn y pentref am ganrif a mwy. Ym 1907, ceisiwyd gwerthu'r gwesty, ond nid yw'n bendant ei bod wedi ei gwerthu y pryd hynny yn yr arwerthiant. [3]Ym 1909, methodd y perchnogion â thalu'r forgais ac aeth dan y morthwyl unwaith eto. Mae'r hysbyseb a ymddangosodd yn y Carnarvon & Denbigh Herald yn rhoi rhybudd am yr arwerthiant ar 10 Ionawr 1910 yn dangos yn glir maint a safon yr eiddo. Roedd yr adeilad yn cynnwys lobi gyda nenfwd uchel, ystafell fasnachol, ystafell ysmygu, lolfa breifat, selerydd, adran jwg a photel, naw ystafell wely, storfa, cegin, washws, toiledau, certws a stablau, gerddi addurniadol a chae borfa, tua 3402 o lathenni sgwâr i gyd.[4] Diddorol yw sylwi mai Nantlle yw enw'r lle yn yr hysbyseb - er mai yn Nhal-y-sarn oedd y dafarn.

Caewyd y gwesty tua dechrau'r ganrif hon, ac erbyn 2008 roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a'r tir wedi tyfu'n wyllt. Cafwyd caniatâd i ddymchwel yr adeilad a chodi tai a fflatiau newydd ar y safle.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Heneb [1], cyrchwyd 6.`1.2022
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-1911
  3. Archifdy Prifysgol Bangor, SC/878/22
  4. Carnarvon & Denbigh Herald, 7.1.1910, t.4
  5. Gwefan North Wales Live, 3.11.2008, [2], cyrchwyd 4.1.2022