William Griffith, Drws-y-coed Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu '''William Griffith (1719-82)''' yn ffermio Drws-y-coed Uchaf ym mhen eithaf Dyffryn Nantlle o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadae...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bu '''William Griffith (1719-82) | Bu '''William Griffith''' (1719-82) yn ffermio [[Drws-y-coed Uchaf]] ym mhen eithaf [[Dyffryn Nantlle]] o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadaeth [[Morafiaid Drws-y-coed|Forafaidd]] yng Ngwynedd. | ||
Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â William Griffith (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.< | Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â [[William Griffith, Llanfaglan|William Griffith]] (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd at 1940'', t.282 - erthygl gan R.T. Jenkins</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Amaethwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:01, 30 Tachwedd 2021
Bu William Griffith (1719-82) yn ffermio Drws-y-coed Uchaf ym mhen eithaf Dyffryn Nantlle o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadaeth Forafaidd yng Ngwynedd.
Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â William Griffith (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig hyd at 1940, t.282 - erthygl gan R.T. Jenkins