Pen Hendra, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
'''Pen Hendra''' (neu '''Ben Hendra''') yw canolbwynt pentref [[Trefor]], lle mae pedair ffordd yn cyfarfod i ffurfio sgwâr bychan.  
'''Pen Hendra''' (neu '''Ben Hendra''') yw canolbwynt pentref [[Trefor]], lle mae pedair ffordd yn cyfarfod i ffurfio sgwâr bychan.  


Hyd yn oed cyn adeiladu'r tai cyntaf yn y pentref ym 1856, pan elwid yr ardal o ffermydd, tyddynnod ac ychydig fythynnod yn [[Hendref (Llanaelhaearn)|"Yr Hendra"]], roedd y llecyn hwn yn fan lle cyfarfyddai nifer o lwybrau neu ffyrdd trol. Ai un i fyny'n syth i gyfeiriad [[Elernion]] a'r ffordd fawr o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd ffordd arall yn mynd i'r gorllewin a dros [[Afon Tâl]] i gyfeiriad fferm Sychnant a llechweddau'r [[Yr Eifl|Eifl]], a'r llall yn mynd i'r gogledd-ddwyrain ar hyd Croeshigol a heibio i ffermydd Llwynaethnen a Gwydir Mawr ac i lan y môr. Gelwid y traeth bryd hynny yn "Porth Llanaelhaearn" a diddorol nodi fod [[Eben Fardd]] yn nodi yn ei ddyddlyfr (a gadwai yn Saesneg) iddo fynd i "Llanaelhaearn Creek" gyda'i hanner brawd hŷn yn ystod tymor pysgota 1815. Roedd Eben tua 13 oed ar y pryd ac nid yw'n dweud ai mynd yno i bysgota eu hunain ynteu i brynu pysgod yr aethant yno.<ref>E.G. Millward (gol.), ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'', (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.1.</ref>
Hyd yn oed cyn adeiladu'r tai cyntaf yn y pentref ym 1856, pan elwid yr ardal o ffermydd, tyddynnod ac ychydig fythynnod yn [[Hendref (Llanaelhaearn)|"Yr Hendra"]], roedd y llecyn hwn yn fan lle cyfarfyddai nifer o lwybrau neu ffyrdd trol. Ai un i fyny'n syth i gyfeiriad [[Elernion]] a'r ffordd fawr o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd ffordd arall yn mynd i'r gorllewin a dros [[Afon Tâl]] i gyfeiriad fferm Sychnant a llechweddau'r [[Yr Eifl|Eifl]], a'r llall yn mynd i'r gogledd-ddwyrain ar hyd Croeshigol a heibio i ffermydd Llwynaethnen a [[Gwydir Bach a Gwydir Mawr|Gwydir Mawr]] ac i lan y môr. Gelwid y traeth bryd hynny yn "Porth Llanaelhaearn" a diddorol nodi fod [[Eben Fardd]] yn nodi yn ei ddyddlyfr (a gadwai yn Saesneg) iddo fynd i "Llanaelhaearn Creek" gyda'i hanner brawd hŷn yn ystod tymor pysgota 1815. Roedd Eben tua 13 oed ar y pryd ac nid yw'n dweud ai mynd yno i bysgota eu hunain ynteu i brynu pysgod yr aethant yno.<ref>E.G. Millward (gol.), ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'', (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.1.</ref>


Ger Pen Hendra safai fferm fechan Tŷ Newydd, neu'r Hendra fel y'i gelwid hefyd, ac ar dir hon yr adeiladwyd tai cyntaf pentref Trefor ym 1856 a'u galw'n Trefor Row. Ymgorfforwyd ffermdy Tŷ Newydd o fewn y rhes newydd hon. Roedd gan Tŷ Newydd ysgubor rhyw 100 llath oddi wrth y ffermdy ar lan yr afon yn union ar ôl croesi'r bont ar y ffordd i gyfeiriad Sychnant. Addaswyd yr ysgubor hon yn dŷ yn ddiweddarach a'i alw'n Pen Bont ac mae'n sefyll o hyd gan ffurfio un pen i Lime Street - y stryd lle ffilmiwyd y gyfres deledu ''Minafon'' yn y 1980au.  
Ger Pen Hendra safai fferm fechan Tŷ Newydd, neu'r Hendra fel y'i gelwid hefyd, ac ar dir hon yr adeiladwyd tai cyntaf pentref Trefor ym 1856 a'u galw'n Trefor Row. Ymgorfforwyd ffermdy Tŷ Newydd o fewn y rhes newydd hon. Roedd gan Tŷ Newydd ysgubor rhyw 100 llath oddi wrth y ffermdy ar lan yr afon yn union ar ôl croesi'r bont ar y ffordd i gyfeiriad Sychnant. Addaswyd yr ysgubor hon yn dŷ yn ddiweddarach a'i alw'n Pen Bont ac mae'n sefyll o hyd gan ffurfio un pen i Lime Street - y stryd lle ffilmiwyd y gyfres deledu ''Minafon'' yn y 1980au.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:05, 16 Tachwedd 2021

Pen Hendra (neu Ben Hendra) yw canolbwynt pentref Trefor, lle mae pedair ffordd yn cyfarfod i ffurfio sgwâr bychan.

Hyd yn oed cyn adeiladu'r tai cyntaf yn y pentref ym 1856, pan elwid yr ardal o ffermydd, tyddynnod ac ychydig fythynnod yn "Yr Hendra", roedd y llecyn hwn yn fan lle cyfarfyddai nifer o lwybrau neu ffyrdd trol. Ai un i fyny'n syth i gyfeiriad Elernion a'r ffordd fawr o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd ffordd arall yn mynd i'r gorllewin a dros Afon Tâl i gyfeiriad fferm Sychnant a llechweddau'r Eifl, a'r llall yn mynd i'r gogledd-ddwyrain ar hyd Croeshigol a heibio i ffermydd Llwynaethnen a Gwydir Mawr ac i lan y môr. Gelwid y traeth bryd hynny yn "Porth Llanaelhaearn" a diddorol nodi fod Eben Fardd yn nodi yn ei ddyddlyfr (a gadwai yn Saesneg) iddo fynd i "Llanaelhaearn Creek" gyda'i hanner brawd hŷn yn ystod tymor pysgota 1815. Roedd Eben tua 13 oed ar y pryd ac nid yw'n dweud ai mynd yno i bysgota eu hunain ynteu i brynu pysgod yr aethant yno.[1]

Ger Pen Hendra safai fferm fechan Tŷ Newydd, neu'r Hendra fel y'i gelwid hefyd, ac ar dir hon yr adeiladwyd tai cyntaf pentref Trefor ym 1856 a'u galw'n Trefor Row. Ymgorfforwyd ffermdy Tŷ Newydd o fewn y rhes newydd hon. Roedd gan Tŷ Newydd ysgubor rhyw 100 llath oddi wrth y ffermdy ar lan yr afon yn union ar ôl croesi'r bont ar y ffordd i gyfeiriad Sychnant. Addaswyd yr ysgubor hon yn dŷ yn ddiweddarach a'i alw'n Pen Bont ac mae'n sefyll o hyd gan ffurfio un pen i Lime Street - y stryd lle ffilmiwyd y gyfres deledu Minafon yn y 1980au.


Cyfeiriadau

  1. E.G. Millward (gol.), Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.1.