Bryn Gwenith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Darn o dir ar gyrion pentref Trefor yw '''Bryn Gwenith'''. | Darn o dir ar gyrion pentref Trefor yw '''Bryn Gwenith'''. | ||
Mae'r tir, sy'n rhyw 12 erw i gyd, yn sefyll rhwng fferm Y Morfa a'r pentref. Mae'n tystio efallai fod gwenith yn cael ei dyfu yno yn y gorffennol neu fod rhywun eisiau dyrchafu ansawdd y tir drwy honni ei fod yn ddigon ffrwythlon i dyfu gwenith arno. Nid oes hanes i ffermdy fod ar y tir ond tan yn gymharol ddiweddar roedd arno dŷ gwair a beudy bychan. Ar y tir hefyd mae adfeilion lladd-dy sylweddol a godwyd gan Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl i ddarparu cig i'r Stôr yn y pentref ac i ganghennau'r Gymdeithas yn y pentrefi cyfagos. Enw arall ar Fryn Gwenith mewn hen ddogfennau oedd Tyddyn y Felin a gelwir y tir gwastad a gwlyb sy'n rhan ohono i lawr ar lan Afon Tâl yn Cors y Felin. Mae'n debygol iawn fod melin ddŵr i falu blawd rywle yno ar lan yr afon ar un adeg ond nid yw ei safle yn hysbys. Nid oedd wedi ei nodi ar fap degwm 1839. Fodd bynnag, mewn dogfen drosglwyddo tir dyddiedig 22 Mehefin 1722 ceir cyfeiriad at Melin-y-Coed ger Y Morfa. Roedd coedlan helaeth ( | Mae'r tir, sy'n rhyw 12 erw i gyd, yn sefyll rhwng fferm Y Morfa a'r pentref. Mae'n tystio efallai fod gwenith yn cael ei dyfu yno yn y gorffennol neu fod rhywun eisiau dyrchafu ansawdd y tir drwy honni ei fod yn ddigon ffrwythlon i dyfu gwenith arno. Nid oes hanes i ffermdy fod ar y tir ond tan yn gymharol ddiweddar roedd arno dŷ gwair a beudy bychan. Ar y tir hefyd mae adfeilion lladd-dy sylweddol a godwyd gan Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl i ddarparu cig i'r Stôr yn y pentref ac i ganghennau'r Gymdeithas yn y pentrefi cyfagos. Enw arall ar Fryn Gwenith mewn hen ddogfennau oedd Tyddyn y Felin a gelwir y tir gwastad a gwlyb sy'n rhan ohono i lawr ar lan Afon Tâl yn Cors y Felin. Mae'n debygol iawn fod melin ddŵr i falu blawd rywle yno ar lan yr afon ar un adeg ond nid yw ei safle yn hysbys. Nid oedd wedi ei nodi ar fap degwm 1839. Fodd bynnag, mewn dogfen drosglwyddo tir dyddiedig 22 Mehefin 1722 ceir cyfeiriad at Melin-y-Coed ger Y Morfa. Roedd coedlan helaeth a elwid yn Winllan Morfa (sydd â rhan ohoni'n sefyll o hyd) yn Y Morfa yn mynd i lawr at lan yr afon ac felly mae'r disgrifiad o'r felin yn y coed yn ffitio'n briodol iawn.<sup>[1]</sup> | ||
Fersiwn yn ôl 15:57, 7 Tachwedd 2021
Darn o dir ar gyrion pentref Trefor yw Bryn Gwenith.
Mae'r tir, sy'n rhyw 12 erw i gyd, yn sefyll rhwng fferm Y Morfa a'r pentref. Mae'n tystio efallai fod gwenith yn cael ei dyfu yno yn y gorffennol neu fod rhywun eisiau dyrchafu ansawdd y tir drwy honni ei fod yn ddigon ffrwythlon i dyfu gwenith arno. Nid oes hanes i ffermdy fod ar y tir ond tan yn gymharol ddiweddar roedd arno dŷ gwair a beudy bychan. Ar y tir hefyd mae adfeilion lladd-dy sylweddol a godwyd gan Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl i ddarparu cig i'r Stôr yn y pentref ac i ganghennau'r Gymdeithas yn y pentrefi cyfagos. Enw arall ar Fryn Gwenith mewn hen ddogfennau oedd Tyddyn y Felin a gelwir y tir gwastad a gwlyb sy'n rhan ohono i lawr ar lan Afon Tâl yn Cors y Felin. Mae'n debygol iawn fod melin ddŵr i falu blawd rywle yno ar lan yr afon ar un adeg ond nid yw ei safle yn hysbys. Nid oedd wedi ei nodi ar fap degwm 1839. Fodd bynnag, mewn dogfen drosglwyddo tir dyddiedig 22 Mehefin 1722 ceir cyfeiriad at Melin-y-Coed ger Y Morfa. Roedd coedlan helaeth a elwid yn Winllan Morfa (sydd â rhan ohoni'n sefyll o hyd) yn Y Morfa yn mynd i lawr at lan yr afon ac felly mae'r disgrifiad o'r felin yn y coed yn ffitio'n briodol iawn.[1]
Cyfeiriadau
1. Gwybodaeth bersonol.