Gwylmabsant Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cynhelid '''Gwylmabsant Clynnog''' ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Dyna oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi, er yn ei hanfod ei phwrpas oedd clodfori a dathlu bywyd [[Sant Beuno]], sylfaenydd [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys y plwyf]].   
Cynhelid '''Gwylmabsant Clynnog''' ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Hon oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi, er yn ei hanfod ei phwrpas oedd clodfori a dathlu bywyd [[Sant Beuno]], sylfaenydd [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys y plwyf]].   


Ceir yn llyfr Hobley hanes o rywbryd tua 1770 am [[Robert Thomas, Y Ffridd]] ger pentref [[Nantlle]] yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf [[Llanllyfni]], ar ddydd Llun Sulgwyn :
Ceir yn llyfr Hobley hanes o rywbryd tua 1770 am [[Robert Thomas, Y Ffridd]] ger pentref [[Nantlle]] yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf [[Llanllyfni]], ar ddydd Llun Sulgwyn :
Llinell 6: Llinell 6:
  Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.111</ref>
  Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.111</ref>


Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn lledu trwy'r wlad gyda thŵf cyflogaeth yn y chwareli, edwynnodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau y cynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r wyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul [[Dosbarth Clynnog|dosbarth Methodistaidd Clynnog]] a sefydlwyd gan [[Eben Fardd]] yng nghylch [[Clynnog Fawr]] wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.12-17</ref>
Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn ymledu trwy'r wlad gyda thwf cyflogaeth yn y chwareli, edwinodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau a gynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r gwyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul [[Dosbarth Clynnog|dosbarth Methodistaidd Clynnog]], a sefydlwyd gan [[Eben Fardd]] yng nghylch [[Clynnog Fawr]], wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.12-17</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 16:38, 4 Tachwedd 2021

Cynhelid Gwylmabsant Clynnog ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Hon oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi, er yn ei hanfod ei phwrpas oedd clodfori a dathlu bywyd Sant Beuno, sylfaenydd eglwys y plwyf.

Ceir yn llyfr Hobley hanes o rywbryd tua 1770 am Robert Thomas, Y Ffridd ger pentref Nantlle yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf Llanllyfni, ar ddydd Llun Sulgwyn :

Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr!

ond ar y ffordd fe glywodd sŵn pregethu a chafodd dröedigaeth, gan droi (yn llythrennol) am adref. Meddai Hobley wedyn:

Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.[1]

Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn ymledu trwy'r wlad gyda thwf cyflogaeth yn y chwareli, edwinodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau a gynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r gwyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul dosbarth Methodistaidd Clynnog, a sefydlwyd gan Eben Fardd yng nghylch Clynnog Fawr, wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.111
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.12-17