Llethr Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
  Da i Wynedd oedd eni
  Da i Wynedd oedd eni
  Y tair Nest i'n tir ni.
  Y tair Nest i'n tir ni.
Griffith oedd mab William a Nest, a briododd hwnnw Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Ei fab o, Robert ap Griffith briododd Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wden yn priodi Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwmgware]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]].
Mae hanes manwl y teulu i'w cael yn yr erthygl ar [[Teulu Llethr Ddu]]. Yn y man, mabwysiadwyd y cyfenw Evans ar ôl Evan ap John ap Evan, a briododd aeres Llethr Ddu tua 1650.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.135</ref> Yn y man, fel canlyniad i briodasau eraill, symudodd y teulu i Langristiolus ym Môn.
 
Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd staws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i benodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Roedd dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf yn Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Yr oedd Teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] trwy i Charles Evans briodi Elisabeth, merch Huw Lewis o [[Plas-y-bont|Blas-y-bont]], [[Y Bontnewydd]] ym 1761.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.54, 122, 175 ac yn arbennig, t.135</ref>


Erbyn 1831, David Williams oedd tenant [[Llethr Ddu]], gan brofi'n bendant fod teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/16997</ref> Yn rhestr bennu' degwm ym 1840, fe ddangosir David Williams fel y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae;r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhesntu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.<ref>Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840</ref>  
Erbyn 1831, David Williams oedd tenant [[Llethr Ddu]], gan brofi'n bendant fod teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/16997</ref> Yn rhestr bennu' degwm ym 1840, fe ddangosir David Williams fel y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae;r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhesntu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.<ref>Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840</ref>  

Fersiwn yn ôl 13:19, 18 Hydref 2021

Mae Llethr Ddu yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fodheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r linach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.

Yr aelodau cyntaf o'r teulu sydd ar glawr yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a mab yntau, Howel ap Dicws a briododd Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William yn priodi Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth.Yn ddiau, daeth y priodasau hyn lewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:

Da i Wynedd oedd eni
Y tair Nest i'n tir ni.

Mae hanes manwl y teulu i'w cael yn yr erthygl ar Teulu Llethr Ddu. Yn y man, mabwysiadwyd y cyfenw Evans ar ôl Evan ap John ap Evan, a briododd aeres Llethr Ddu tua 1650.[1] Yn y man, fel canlyniad i briodasau eraill, symudodd y teulu i Langristiolus ym Môn.

Erbyn 1831, David Williams oedd tenant Llethr Ddu, gan brofi'n bendant fod teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.[2] Yn rhestr bennu' degwm ym 1840, fe ddangosir David Williams fel y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae;r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhesntu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.[3]

Erbyn 1864 fodd bynnag y mae'n amlwg mai Ystad Glynllifon oedd yn berchen ar Lethr Ddu, gan fod Arglwydd Newborough wedi adnewyddu prydles ar y fferm i'r tenant Owen Roberts.[4] Roedd Owen Roberts a'i wraig Jane wedi bod yn denantiaid yno ers o leiaf 1858 gan fod cofnod eu bod yno yn y flwyddyn honno.[5]

Mae olion hen derasau amaethu sy'n mynd yn ol i gyfnod olion y grŵp o hen gytiau crynion gerllaw'r fferm.[6] sy'n tueddu dangos fod y safle'n hen iawn fel tir amaethu ac erfallai'n tystio i bwysigrwydd Llethr Ddu yn yr Oesoedd Canol.

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.135
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/16997
  3. Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/6426
  5. Archifdy Caernarfon, XM/7744/2/10
  6. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.103