Treialon Cwn Defaid Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Am rai blynyddoedd bu'r Treialon Cŵn Defaid yn rhan o'r calendr blynyddol yn Nhrefor, er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Am rai blynyddoedd bu'r Treialon Cŵn Defaid yn rhan o'r calendr blynyddol yn Nhrefor, er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr Eisteddfod, y Carnifal, y Sioe Flodau, a'r Sioe Amaethyddol yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis Clynnog, Pontlyfni a Llanllyfni. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi.
Am rai blynyddoedd bu'r Treialon Cŵn Defaid yn rhan o'r calendr blynyddol yn Nhrefor, er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr Eisteddfod, y Carnifal, y Sioe Flodau, a'r Sioe Amaethyddol yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis Clynnog, Pontlyfni a Llanllyfni. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi.
Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlanu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.
Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlanu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.<sup>[1]</sup>
 
 
== Cyfeiriadau ==
 
1. Gwybodaeth bersonol

Fersiwn yn ôl 12:43, 7 Gorffennaf 2021

Am rai blynyddoedd bu'r Treialon Cŵn Defaid yn rhan o'r calendr blynyddol yn Nhrefor, er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr Eisteddfod, y Carnifal, y Sioe Flodau, a'r Sioe Amaethyddol yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis Clynnog, Pontlyfni a Llanllyfni. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi. Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlanu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.[1]


Cyfeiriadau

1. Gwybodaeth bersonol