Sioe Flodau Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu Sioe Flodau lewyrchus yn cael ei chynnal yn Nhrefor am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, g...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Bu Sioe Flodau lewyrchus yn cael ei chynnal yn Nhrefor am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r chwarelwyr yn trosglwyddo eu medrau yn y maes o'r naill genhedlaeth i'r llall. Roedd llawer o ffermwyr yr ardal hefyd yn neilltuo darn o gae yn gyson i dyfu amrywiaeth o gynnyrch. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Sioe Flodau a gynhelid ar y dydd Sadwrn olaf yn Awst bob blwyddyn. Am flynyddoedd yr hen Neuadd Bentref (neu'r Rhyt ar lafar) fu'n gartref i'r sioe, ac yna'r Ganolfan wedi i honno gael ei hagor ym 1983. Roedd y sioe yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o'r pentref i hun, yn ogystal ag o ardaloedd cyfagos, gyda rhai wynebau cyfarwydd yn ei chefnogi am flynyddoedd maith. Yn ogystal â nifer helaeth o gystadlaethau planhigion, blodau, llysiau a ffrwythau gardd, roedd adran sylweddol hefyd o gystadlaethau coginio o bob math, yn ogystal â jamiau, gwin cartref ac yn y blaen. Fel nifer o ddigwyddiadau tebyg, edwinodd y sioe yn raddol a daeth i ben ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Bu colli'r Sioe Flodau a'r holl weithgaredd a chymdeithasu a oedd yn gysylltiedig â hi yn golled fawr i'r pentref.  
Bu '''Sioe Flodau''' lewyrchus yn cael ei chynnal yn [[Trefor|Nhrefor]] am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r chwarelwyr yn trosglwyddo eu medrau yn y maes o'r naill genhedlaeth i'r llall. Roedd llawer o ffermwyr yr ardal hefyd yn neilltuo darn o gae yn gyson i dyfu amrywiaeth o gynnyrch. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Sioe Flodau a gynhelid ar y dydd Sadwrn olaf yn Awst bob blwyddyn. Am flynyddoedd yr hen Neuadd Bentref (neu'r Rhyt ar lafar) fu'n gartref i'r sioe, ac yna'r Ganolfan wedi i honno gael ei hagor ym 1983. Roedd y sioe yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o'r pentref i hun, yn ogystal ag o ardaloedd cyfagos, gyda rhai wynebau cyfarwydd yn ei chefnogi am flynyddoedd maith. Yn ogystal â nifer helaeth o gystadlaethau planhigion, blodau, llysiau a ffrwythau gardd, roedd adran sylweddol hefyd o gystadlaethau coginio o bob math, yn ogystal â jamiau, gwin cartref ac yn y blaen. Fel nifer o ddigwyddiadau tebyg, edwinodd y sioe yn raddol a daeth i ben ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Bu colli'r Sioe Flodau a'r holl weithgaredd a chymdeithasu a oedd yn gysylltiedig â hi yn golled fawr i'r pentref.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
Gwybodaeth bersonol

Fersiwn yn ôl 19:02, 1 Gorffennaf 2021

Bu Sioe Flodau lewyrchus yn cael ei chynnal yn Nhrefor am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r chwarelwyr yn trosglwyddo eu medrau yn y maes o'r naill genhedlaeth i'r llall. Roedd llawer o ffermwyr yr ardal hefyd yn neilltuo darn o gae yn gyson i dyfu amrywiaeth o gynnyrch. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Sioe Flodau a gynhelid ar y dydd Sadwrn olaf yn Awst bob blwyddyn. Am flynyddoedd yr hen Neuadd Bentref (neu'r Rhyt ar lafar) fu'n gartref i'r sioe, ac yna'r Ganolfan wedi i honno gael ei hagor ym 1983. Roedd y sioe yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o'r pentref i hun, yn ogystal ag o ardaloedd cyfagos, gyda rhai wynebau cyfarwydd yn ei chefnogi am flynyddoedd maith. Yn ogystal â nifer helaeth o gystadlaethau planhigion, blodau, llysiau a ffrwythau gardd, roedd adran sylweddol hefyd o gystadlaethau coginio o bob math, yn ogystal â jamiau, gwin cartref ac yn y blaen. Fel nifer o ddigwyddiadau tebyg, edwinodd y sioe yn raddol a daeth i ben ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Bu colli'r Sioe Flodau a'r holl weithgaredd a chymdeithasu a oedd yn gysylltiedig â hi yn golled fawr i'r pentref.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol