William Roberts, Hendre Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen William Roberts - Hendre Bach i William Roberts, Hendre Bach heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Gweinidog gyda chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd oedd William Roberts a fagwyd ar fferm Hendre Bach ym mhlwyf Clynnog, lle roedd ei deulu wedi cartrefu ers tua thair canrif. (Tua dwy genhedlaeth yn ddiweddarach priododd Elen, merch hynaf Eben Fardd, i mewn i'r teulu hwn.) Aelodau gyda'r Bedyddwyr oedd rhieni William Roberts, ond pan oedd tuag 20 oed ymunodd William â'r Methodistiaid yn y Capel Uchaf, lle roedd un o bregethwyr mwyaf tanbaid yr oes, Robert Roberts, yn weinidog. Anogwyd William gan Thomas Charles i ddechrau Ysgol Sul yn y Capel Uchaf; dechreuodd bregethu tua 1804 ac fe'i hordeiniwyd i waith y weinidogaeth ym 1819. Dywedir ei fod yn bregethwr araf a phwyllog a dueddai i fod yn bur faith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol: ''Traethawd ar yr Ordinhad o Fedydd'' (Caernarfon, 1845), ac ''Arweinydd i Athrawon yr Ysgolion'' (Y Bala, 1818, 1819). Er iddo golli ei olwg yn ei henaint daliodd ati i bregethu bron i'r diwedd. Bu farw 14 Hydref 1857 yn 84 oed a'i gladdu ym mynwent Capel Uchaf.<sup>[1]</sup>
Gweinidog gyda chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd oedd [[William Roberts]] (1780-1857) a fagwyd ar fferm Hendre Bach ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], lle roedd ei deulu wedi cartrefu ers tua thair canrif. (Tua dwy genhedlaeth yn ddiweddarach priododd Elen, merch hynaf [[Eben Fardd]], i mewn i'r teulu hwn.) Aelodau gyda'r Bedyddwyr oedd rhieni William Roberts, ond pan oedd tuag 20 oed ymunodd William â'r Methodistiaid yn y [[Capel Uchaf (MC)|Capel Uchaf]], lle roedd un o bregethwyr mwyaf tanbaid yr oes, [[Robert Roberts]], yn weinidog. Anogwyd William gan Thomas Charles i ddechrau Ysgol Sul yn y Capel Uchaf; dechreuodd bregethu tua 1804 ac fe'i hordeiniwyd i waith y weinidogaeth ym 1819. Dywedir ei fod yn bregethwr araf a phwyllog a dueddai i fod yn bur faith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol: ''Traethawd ar yr Ordinhad o Fedydd'' (Caernarfon, 1845), ac ''Arweinydd i Athrawon yr Ysgolion'' (Y Bala, 1818, 1819). Er iddo golli ei olwg yn ei henaint daliodd ati i bregethu bron i'r diwedd. Bu farw 14 Hydref 1857 yn 84 oed a'i gladdu ym mynwent Capel Uchaf.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.330</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.330.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gweinidogion]]

Fersiwn yn ôl 17:29, 29 Mehefin 2021

Gweinidog gyda chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd oedd William Roberts (1780-1857) a fagwyd ar fferm Hendre Bach ym mhlwyf Clynnog Fawr, lle roedd ei deulu wedi cartrefu ers tua thair canrif. (Tua dwy genhedlaeth yn ddiweddarach priododd Elen, merch hynaf Eben Fardd, i mewn i'r teulu hwn.) Aelodau gyda'r Bedyddwyr oedd rhieni William Roberts, ond pan oedd tuag 20 oed ymunodd William â'r Methodistiaid yn y Capel Uchaf, lle roedd un o bregethwyr mwyaf tanbaid yr oes, Robert Roberts, yn weinidog. Anogwyd William gan Thomas Charles i ddechrau Ysgol Sul yn y Capel Uchaf; dechreuodd bregethu tua 1804 ac fe'i hordeiniwyd i waith y weinidogaeth ym 1819. Dywedir ei fod yn bregethwr araf a phwyllog a dueddai i fod yn bur faith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol: Traethawd ar yr Ordinhad o Fedydd (Caernarfon, 1845), ac Arweinydd i Athrawon yr Ysgolion (Y Bala, 1818, 1819). Er iddo golli ei olwg yn ei henaint daliodd ati i bregethu bron i'r diwedd. Bu farw 14 Hydref 1857 yn 84 oed a'i gladdu ym mynwent Capel Uchaf.[1]

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.330