William John Davies (Glan Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Y Parch. William John Davies (Glan Llyfnwy) i William John Davies (Glan Llyfnwy) heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''William John Davies''' (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]]. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau cyn gorffen ei yrfa fer yn weinidog ar eglwys [[Capel Brynaerau (MC)|Brynaerau]] ger [[Pontlyfni]]. Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." <ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.35-6.</ref> Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn ''Cymru''.<ref>''Cymru'', Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.</ref>
Ganed '''William John Davies''' (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]]. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau cyn gorffen ei yrfa fer yn weinidog ar eglwys [[Capel Brynaerau (MC)|Brynaerau]] ger [[Pontlyfni]]. Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." <ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.35-6.</ref> Serch hynny, bu i un o'i gyfoedion ei osod ar ben rhestr o ddeunaw o feirdd [[Dyffryn Nantlle]] yn ôl eu safon fel beirdd; dichon mai bardd ei gyfnod ydoedd.<ref>’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7</ref>Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn ''Cymru''.<ref>''Cymru'', Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 14:35, 5 Chwefror 2022

Ganed William John Davies (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym Mhen-y-groes. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau cyn gorffen ei yrfa fer yn weinidog ar eglwys Brynaerau ger Pontlyfni. Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." [1] Serch hynny, bu i un o'i gyfoedion ei osod ar ben rhestr o ddeunaw o feirdd Dyffryn Nantlle yn ôl eu safon fel beirdd; dichon mai bardd ei gyfnod ydoedd.[2]Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn Cymru.[3]

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.35-6.
  2. ’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7
  3. Cymru, Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.