William John Davies (Glan Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Y Parch. William John Davies (Glan Llyfnwy) i William John Davies (Glan Llyfnwy) heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:03, 28 Mehefin 2021

Ganed William John Davies (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym Mhen-y-groes. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau cyn gorffen ei yrfa fer yn weinidog ar eglwys Brynaerau ger Pontlyfni. Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." [1] Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn Cymru.[2]

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.35-6.
  2. Cymru, Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.