Hugh Jones, Pen-y-bythod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerddor a aned tua 1745 yn nhyddyn Pen-y-bythod ym mhlwyf Llandwrog oedd Hugh Jones. Er caleted ei fyd datblygodd yn gerddor dawnus a chyfansoddodd nifer...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Hugh Jones - Pen-y-bythod i Hugh Jones, Pen-y-bythod heb adael dolen ailgyfeirio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:43, 24 Mehefin 2021
Cerddor a aned tua 1745 yn nhyddyn Pen-y-bythod ym mhlwyf Llandwrog oedd Hugh Jones. Er caleted ei fyd datblygodd yn gerddor dawnus a chyfansoddodd nifer dda o anthemau. Credai Myrddin Fardd, ar sail gwybodaeth gan un a alwai ei hun yn Ylltir Eryri, mai Hugh Jones a gyfansoddodd yr anthem a genid ar "Cân Simeon, Cân Mair y Forwyn, ac Fel y brefa'r hydd, etc.", ac mai ef hefyd oedd cyfansoddwr y dôn Edinburgh, a gafwyd yn llyfr tonau Ieuan Gwyllt. Cyfansoddodd ymdeithganau (marches'") a miniwetau yn ogystal. Roedd yn eglwyswr pybyr ac yn ôl y cofnod ar ei garreg fedd bu farw ar 5 Ionawr 1795.
Cyfeiriadau
John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.162.