Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones, neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol. Dywedir iddo...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen Hugh Jones - "Gwyndaf Ieuanc" i Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc) heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:28, 29 Ionawr 2023

Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones, neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw Pen-y-groes ym mhlwyf Llanwnda. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol Cell Callestr.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal Nantlle'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.438.