Moel Derwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bryncyn lled grwn a serth ei ochrau uwchlaw Pant-glas yw Moel Derwin. Nid yw ond 217 metr uwchlaw'r môr ond ceir golygfeydd hyfryd o'i chopa ar dywydd cl...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Bryncyn lled grwn a serth ei ochrau uwchlaw Pant-glas yw Moel Derwin. Nid yw ond 217 metr uwchlaw'r môr ond ceir golygfeydd hyfryd o'i chopa ar dywydd clir. Caiff Moel Derwin ei gwahanu oddi wrth Fynydd Cennin gan ddarn o dir is. Nid yw Mynydd Cennin ond rhyw 50 metr yn uwch na'r Foel, ond mae'n llawer mwy o ran ei arwynebedd. Yn y cyffiniau hyn yr ymladdwyd Brwydr Bryn Derwin ym 1255 pan drechodd Llywelyn ap Gruffydd ei frodyr, Owain Goch a Dafydd, gan ennill teyrnas Gwynedd yn llwyr iddo'i hun. Cyhoeddwyd cyfrol ddifyr o atgofion a hanesion am gymeriadau lleol yr ardal hon, sef ''O Ben Foel Derwin'' (1981) gan O. Roger Owen, a oedd yn ffermio yn Gyfelog gerllaw.
Bryncyn lled grwn a serth ei ochrau uwchlaw Pant-glas yw Moel Derwin. Nid yw ond 217 metr uwchlaw'r môr ond ceir golygfeydd hyfryd o'i chopa ar dywydd clir. Caiff Moel Derwin ei gwahanu oddi wrth Fynydd Cennin gan ddarn o dir is. Nid yw Mynydd Cennin ond rhyw 50 metr yn uwch na'r Foel, ond mae'n llawer mwy o ran ei arwynebedd. Yn y cyffiniau hyn yr ymladdwyd Brwydr Bryn Derwin ym 1255 pan drechodd Llywelyn ap Gruffydd ei frodyr, Owain Goch a Dafydd, gan ennill teyrnas Gwynedd yn llwyr iddo'i hun. (Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Brwydr Bryn Derwin.) Cyhoeddwyd cyfrol ddifyr o atgofion a hanesion am gymeriadau lleol yr ardal hon, sef ''O Ben Foel Derwin'' (1981) gan O. Roger Owen, a oedd yn ffermio yn Gyfelog gerllaw.

Fersiwn yn ôl 11:03, 27 Ebrill 2021

Bryncyn lled grwn a serth ei ochrau uwchlaw Pant-glas yw Moel Derwin. Nid yw ond 217 metr uwchlaw'r môr ond ceir golygfeydd hyfryd o'i chopa ar dywydd clir. Caiff Moel Derwin ei gwahanu oddi wrth Fynydd Cennin gan ddarn o dir is. Nid yw Mynydd Cennin ond rhyw 50 metr yn uwch na'r Foel, ond mae'n llawer mwy o ran ei arwynebedd. Yn y cyffiniau hyn yr ymladdwyd Brwydr Bryn Derwin ym 1255 pan drechodd Llywelyn ap Gruffydd ei frodyr, Owain Goch a Dafydd, gan ennill teyrnas Gwynedd yn llwyr iddo'i hun. (Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Brwydr Bryn Derwin.) Cyhoeddwyd cyfrol ddifyr o atgofion a hanesion am gymeriadau lleol yr ardal hon, sef O Ben Foel Derwin (1981) gan O. Roger Owen, a oedd yn ffermio yn Gyfelog gerllaw.