Melin Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd [[Melin Llanllyfni]] yng ngwaelod y pentref bron gyferbyn â'r eglwys. Mae bwthyn o'r enw ''Y Felin'' yn dal i sefyll yno, ger [[Pont y Rheithordy|Bont Rectory]], sef y bont fechan dros nant (sef [[Afon y Felin]]) sy'n llifo o gyfeiriad Rhos-yr-unman i [[Afon Llyfni]], a dichon mai adeilad y tu ôl i'r bwthyn oedd y felin ei hun. Y nant hon roddodd y grym i droi'r olwyn, ac nid oes tystiolaeth ar y mapiau Ordnans fod ffrwd felin ar wahân yn gwasanaethu'r felin hon. Yng nghofnodion y | Roedd [[Melin Llanllyfni]] yng ngwaelod y pentref bron gyferbyn â'r eglwys. Mae bwthyn o'r enw ''Y Felin'' yn dal i sefyll yno, ger [[Pont y Rheithordy|Bont Rectory]], sef y bont fechan dros nant (sef [[Afon y Felin]]) sy'n llifo o gyfeiriad Rhos-yr-unman i [[Afon Llyfni]], a dichon mai adeilad y tu ôl i'r bwthyn oedd y felin ei hun. Y nant hon roddodd y grym i droi'r olwyn, ac nid oes tystiolaeth ar y mapiau Ordnans fod ffrwd felin ar wahân yn gwasanaethu'r felin hon. Yng nghofnodion y Cyfrifiad ar gyfer 1841, enwir Edward Morris, 51 oedd, fel y melinydd; ac ym 1871, yn nhŷ'r melinydd ("Miller's House") y drws nesaf i'r felin, enwir Robert Roberts, 44 oed, fel "melinydd grawn".<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1841 ac 1871</ref> Melin ŷd ydoedd felly, ac roedd yn dal i gael ei dangos fel melin ar waith ar fap Ordnans dyddiedig 1914. Yn ystod y 1920au, roedd [[Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy)]] a'i frawd yn cadw'r felin. | ||
Mae tystiolaeth fod melin wedi bod yma ers o leiaf | Mae tystiolaeth fod melin wedi bod yma ers o leiaf yr 17g. Ceir achos ymysg papurau'r Llys Chwarter 1655. Y pryd hynny roedd cario nwyddau a malu grawn ymysg yr holl weithgareddau a waharddwyd ar y Saboth, ac adroddwyd wrth [[Edmund Glynn]], yr ynad heddwch lleol, fod John Prichard David Lloyd, gwas Griffith John Griffith, [[Gwernor]] ac Ellin Griffith, gwraig Owen Prichard, wedi cael eu gweld yn gyrru caseg gan Humphrey John ap Humphrey, melinydd o blwyf [[Llandwrog]] - y mae'n bosibl mai melin [[Melin Nantlle]] oedd honno. Roedd y gaseg wedi ei llwytho â maidd a daeth o gyfeiriad [[Sarn Wyth-dŵr]] at ddrws [[Melin Llanllyfni]]. Gwrthododd Griffith ap William, y melinydd ar y pryd, fynd draw i'r felin i falu'r grawn oherwydd nad oedd o am ymhel â'r gwaith ar y Saboth. Y diwrnod wedyn, aeth Elizabeth John Prichard, ceidwad tafarn neu dŷ cwrw yn Llanllyfni, i'r felin gyda'r un faint o rawn, wedi ei gael o Ellin Owen.<ref>Archifdy Caernarfon, Papurau'r Llys Chwarter XQS/1655/22</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 15:41, 18 Mawrth 2022
Roedd Melin Llanllyfni yng ngwaelod y pentref bron gyferbyn â'r eglwys. Mae bwthyn o'r enw Y Felin yn dal i sefyll yno, ger Bont Rectory, sef y bont fechan dros nant (sef Afon y Felin) sy'n llifo o gyfeiriad Rhos-yr-unman i Afon Llyfni, a dichon mai adeilad y tu ôl i'r bwthyn oedd y felin ei hun. Y nant hon roddodd y grym i droi'r olwyn, ac nid oes tystiolaeth ar y mapiau Ordnans fod ffrwd felin ar wahân yn gwasanaethu'r felin hon. Yng nghofnodion y Cyfrifiad ar gyfer 1841, enwir Edward Morris, 51 oedd, fel y melinydd; ac ym 1871, yn nhŷ'r melinydd ("Miller's House") y drws nesaf i'r felin, enwir Robert Roberts, 44 oed, fel "melinydd grawn".[1] Melin ŷd ydoedd felly, ac roedd yn dal i gael ei dangos fel melin ar waith ar fap Ordnans dyddiedig 1914. Yn ystod y 1920au, roedd Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy) a'i frawd yn cadw'r felin.
Mae tystiolaeth fod melin wedi bod yma ers o leiaf yr 17g. Ceir achos ymysg papurau'r Llys Chwarter 1655. Y pryd hynny roedd cario nwyddau a malu grawn ymysg yr holl weithgareddau a waharddwyd ar y Saboth, ac adroddwyd wrth Edmund Glynn, yr ynad heddwch lleol, fod John Prichard David Lloyd, gwas Griffith John Griffith, Gwernor ac Ellin Griffith, gwraig Owen Prichard, wedi cael eu gweld yn gyrru caseg gan Humphrey John ap Humphrey, melinydd o blwyf Llandwrog - y mae'n bosibl mai melin Melin Nantlle oedd honno. Roedd y gaseg wedi ei llwytho â maidd a daeth o gyfeiriad Sarn Wyth-dŵr at ddrws Melin Llanllyfni. Gwrthododd Griffith ap William, y melinydd ar y pryd, fynd draw i'r felin i falu'r grawn oherwydd nad oedd o am ymhel â'r gwaith ar y Saboth. Y diwrnod wedyn, aeth Elizabeth John Prichard, ceidwad tafarn neu dŷ cwrw yn Llanllyfni, i'r felin gyda'r un faint o rawn, wedi ei gael o Ellin Owen.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma