Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd [[Thomas Wynn ( | '''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd [[Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Syr Newborough)]] am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen. | ||
Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch". | Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch". | ||
Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau arferol (e.e. "Thomas Wynn ( | Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau arferol (e.e. "Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Newborough)"). Am restr o'r wyth Arglwydd Newborough hyd y presennol, gweler [[Arglwyddi Newborough]]. | ||
==Ffynonellau== | ==Ffynonellau== |
Fersiwn yn ôl 15:32, 30 Ebrill 2019
Arglwydd Newborough yw'r teitl a gafodd Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Syr Newborough) am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.
Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch".
Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau arferol (e.e. "Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Newborough)"). Am restr o'r wyth Arglwydd Newborough hyd y presennol, gweler Arglwyddi Newborough.
Ffynonellau
- Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Ireland (1837)