Brynllidiart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd. | O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd. | ||
Roedd y fferm yn rhan o [[Ystad Garnons]] erbyn canol y 19g., os nad wedyn hefyd er bod y dystiolaeth yn ddiffygiol. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E</ref> fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hananer cyntaf y 19g. ydyw. | Roedd y fferm yn rhan o [[Ystad Pant Du]], ystad [[Teulu Garnons]] erbyn canol y 19g., os nad wedyn hefyd er bod y dystiolaeth yn ddiffygiol. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E</ref> fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hananer cyntaf y 19g. ydyw. | ||
Yn nogfennau Rhannu'r Degwm tua 1839, gwelir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd. Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr, â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr mae Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. ar ganol y ganrif felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni</ref> | Yn nogfennau Rhannu'r Degwm tua 1839, gwelir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd. Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr, â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr mae Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. ar ganol y ganrif felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni</ref> |
Fersiwn yn ôl 09:27, 9 Ebrill 2021
Mae Brynllidiart (a sillefid yn aml yn Brynllidiard) uwchben Dyffryn Nantlle bellach yn furddun, ac yn bur ddiarffordd. Eir ato trwy gymryd Lôn Tyddyn Agnes (rhwng Llanllyfni a phentrefan Tan'rallt at ben draw'r tarmac ger tyddyn Bryn-gwyn. O'r fan hyn y mae cychwyn ar hyd llwybr Cwm Silyn, ond i fynd i Frynllidiart, cedwir yr ochr uchaf i wal y mynydd lle bu ffordd drol unwaith. Mae Brynllidiart i'w weld ar draws tri chae tra chorsiog ac er y nodir llwybrau cyhoeddus ar fapiau Ordnans, maent i gyd wedi diflannu a llinell rhai wedi'u blocio gan ffensys gwifren bigog.
Y fferm
O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd.
Roedd y fferm yn rhan o Ystad Pant Du, ystad Teulu Garnons erbyn canol y 19g., os nad wedyn hefyd er bod y dystiolaeth yn ddiffygiol. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,[1] fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hananer cyntaf y 19g. ydyw.
Yn nogfennau Rhannu'r Degwm tua 1839, gwelir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd. Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr, â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr mae Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. ar ganol y ganrif felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.[2]
Yn nes ymlaen yn y ganrif ac wedyn nes i'r fferm gael ei gadael yn wag, bu'r penteulu weithiau'n ffermio ac weithio'n gweithio fel chwarelwr, gan drin Brynllidiart fel tyddyn rhan amser. Ym 1871 roedd y tir a oedd yn perthyn i'r fferm wedi ymestyn i 30 acer, ac erbyn 1881 roedd y fferm wedi cynyddu i 50 acer - dichon trwy ymdrechion Robert Roberts, tad R. Silyn Roberts.
Y tŷ
Mae waliau'r tŷ wedi dadfeilio i raddau er y gellid o hyd gweld mai tŷ deulawr oedd o. Wrth yr adwy lle bu'r drws gwelir plac llechen a osodwyd yno yn 2021 i nodi mai dyna gartref R. Silyn Roberts a Mathonwy Hughes, ei nai - dau brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynllidiart yw'r unig gartref yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu mwy nag un prifardd.
Canodd Mathonwy Hughes englyn milwr i'w hen gartref:
"Tir pell y diadelloedd, Darn di-werth a driniwyd oedd, Ond Eden i'm tad ydoedd."
I'w Barhau