Teulu Huddart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.
Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.


Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle.  
Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle. Nid yw'n rhyfedd fod cymaint o straeon am ysbrydion a bwganod yn gysylltiedig â'r fan. Yn ei gyfrol hunangofiannol hynod ddifyr, ''Pigau'r Sêr'' mae'r diweddar J.G. Williams (Jac Williams) yn sôn fel yr aeth ef a Wil, ei frawd, i fusnesa o gwmpas y plas pan oeddent yn llanciau ifanc. Wedi llwyddo i fynd i mewn drwy ffenest rydd aethant i fyny'r grisiau yn y gwyll. Fodd bynnag, yn un o'r llofftydd torrodd sŵn mwyaf enbyd o'u cwmpas, fel rhywun yn tynnu ffon ar hyd ffyn y grisiau ac fe wnaethant ffoi oddi yno am eu bywydau. Mewn sgwrs a gefais gyda Jac Williams rai blynyddoedd yn ôl dywedodd wrthyf iddo fentro yno drachefn gyda ffrind iddo pan oeddent yn hŷn. Pan oeddent tu allan i'r plas fe wnaethant godi eu golygon at ffenestri'r llofftydd a gweld dyn mewn dillad tywyll yn edrych yn hynod fygythiol arnynt. Nid oedd llawr i'r llofft erbyn hynny mewn Jac Williams wrthyf ac fe lewygodd ei gyfaill yn y fan a'r lle!


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 14:38, 31 Mawrth 2021

Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mhlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.[1] Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad, a hynny wedi iddo wneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.[2]

Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[3], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[4] Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a galluogodd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[5] Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.[6]

Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.

Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle. Nid yw'n rhyfedd fod cymaint o straeon am ysbrydion a bwganod yn gysylltiedig â'r fan. Yn ei gyfrol hunangofiannol hynod ddifyr, Pigau'r Sêr mae'r diweddar J.G. Williams (Jac Williams) yn sôn fel yr aeth ef a Wil, ei frawd, i fusnesa o gwmpas y plas pan oeddent yn llanciau ifanc. Wedi llwyddo i fynd i mewn drwy ffenest rydd aethant i fyny'r grisiau yn y gwyll. Fodd bynnag, yn un o'r llofftydd torrodd sŵn mwyaf enbyd o'u cwmpas, fel rhywun yn tynnu ffon ar hyd ffyn y grisiau ac fe wnaethant ffoi oddi yno am eu bywydau. Mewn sgwrs a gefais gyda Jac Williams rai blynyddoedd yn ôl dywedodd wrthyf iddo fentro yno drachefn gyda ffrind iddo pan oeddent yn hŷn. Pan oeddent tu allan i'r plas fe wnaethant godi eu golygon at ffenestri'r llofftydd a gweld dyn mewn dillad tywyll yn edrych yn hynod fygythiol arnynt. Nid oedd llawr i'r llofft erbyn hynny mewn Jac Williams wrthyf ac fe lewygodd ei gyfaill yn y fan a'r lle!

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611
  2. Gwefan Festipedia, [1], cyrchwyd 26.11.2018
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/6773
  4. Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.
  5. Archifdy Caernarfon, XD40/26/11
  6. Jim Hewett, The Huddart Family, FR Heritage Journal rhif 93 (2008).