Eglwys Crist, Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Yn wreiddiol, adeilad haearn oedd yr eglwys a wasanaethai bentref [[Pen-y-groes]], a dyma oedd yr '''Eglwys Crist''' gychwynnol.  
Yn wreiddiol, adeilad haearn oedd yr eglwys a wasanaethai bentref [[Pen-y-groes]], a dyma oedd yr '''Eglwys Crist''' gychwynnol.  


Codwyd yr Eglwys Crist bresennol ym 1890 yn lle'r hen adeilad haearn sinc. Gwaith y pensaer eglwysig [[Henry Kennedy]] ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 9 Mai 1890, t.6</ref> Rhoddwyd y safle'n wreiddiol gan berchnogion [[Ystad Bryncir]], sef [[Teulu Huddart]], a'r llechi ar y to'n rhodd gan G.W. Duff-Assheton-Smith, [[Ystad y Faenol]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref> Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Puleston 16 Awst 1890, a'i gwr, Syr John Puleston, AS yn annerch. Bu Côr yr Eglwys yn canu, i gyfeiliant [[Band Pres Pen-y-groes.<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890</ref> Nid yw'n glir pam y cafodd Puleston ei ddewis i wneud hyn, heblaw am y ffaith ei fod yn Gymro, yn amlwg gyda'r Eisteddfod ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Geidwadwr a fyddai'n gwrthwynebu Lloyd George yn yr etholiad nesaf!<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PULE-HEN-1829], cyrchwyd 25.3.2021</ref> Gwadodd Puleston mai am resymau gwleidyddol yr oedd yn annerch y dorf, ond yn hytrach roedd yn ymhyfrydu mewn cael cymryd rhan mewn digwyddiad amholeticaidd. Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol yn [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes]] cyn cymud at safle'r eglwys gerllaw. Ymysg y dorf niferus yr oedd un o brif noddwyr yr adeiladu, [[John Robinson]], [[Plas Tal-y-sarn]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref>
Codwyd yr Eglwys Crist bresennol ym 1890 yn lle'r hen adeilad haearn sinc. Gwaith y pensaer eglwysig [[Henry Kennedy]] ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 9 Mai 1890, t.6</ref> Rhoddwyd y safle'n wreiddiol gan berchnogion [[Ystad Bryncir]], sef [[Teulu Huddart]]. Yr oedd y llechi ar y to'n rhodd gan G.W. Duff-Assheton-Smith, [[Ystad y Faenol]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref> Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Puleston 16 Awst 1890, a gwnaeth ei gŵr, Syr John Puleston, AS annerch y gynulleidfa. Bu Côr yr Eglwys yn canu, i gyfeiliant [[Band Pres Pen-y-groes]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref> Nid yw'n glir pam y cafodd Puleston ei ddewis i wneud hyn, heblaw am y ffaith ei fod yn Gymro, yn amlwg gyda'r Eisteddfod ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Geidwadwr a fyddai'n gwrthwynebu Lloyd George yn yr etholiad nesaf!<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PULE-HEN-1829], cyrchwyd 25.3.2021</ref> Gwadodd Puleston mai am resymau gwleidyddol yr oedd yn annerch y dorf, ond yn hytrach, meddai, yr oedd yn ymhyfrydu mewn cael cymryd rhan mewn digwyddiad anwleidyddol. Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol yn [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes]] cyn cymud at safle'r eglwys gerllaw. Ymysg y dorf niferus yr oedd un o brif noddwyr yr adeiladu, [[John Robinson]], [[Plas Tal-y-sarn]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref>


Cost y gwaith o godi'r eglwys oedd oddeutu £1400, a chafwyd tua £1050 mewn llaw cyn cychwyn ar y gwaith. Mae lle yn yr eglwys i 320 o bobl.<ref>''North Wales Chronicle'', 23 Awst 1890, t.6</ref>
Cost y gwaith o godi'r eglwys oedd oddeutu £1400, ac yr oedd tua £1050 mewn llaw cyn cychwyn ar y gwaith. Mae lle yn yr eglwys i 320 o bobl.<ref>''North Wales Chronicle'', 23 Awst 1890, t.6</ref>


Mae'n ail eglwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]], a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o [[Neuadd Goffa Pen-y-groes]].<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/safle/43666?term=Christ%20Church],cyrchwyd 24.3.2021</ref> Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at y tai newydd nag eglwys Llanllyfni. Gwasanaethai curad plwyf LLanllyfni gynulleidfa Eglwys Crist a phlwyfolion y rhan amgylchynol o blwyf Llanllyfni, ac ar adeg agor yr eglwys newydd, y Parch. R. Hughes oedd curad Pen-y-groes. Cyn ei ddyddiau ef, Parch. Hughes arall oedd y cyrad cyn iddo symud i fod yn reithor Y Bermo.<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref>
Hon yw'r ail eglwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]], a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o [[Neuadd Goffa Pen-y-groes]].<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/safle/43666?term=Christ%20Church],cyrchwyd 24.3.2021</ref> Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at yr holl dai newydd oedd yn cael eu codi ym Mhen-y-groes nag eglwys Llanllyfni. Gwasanaethai curad plwyf Llanllyfni gynulleidfa Eglwys Crist a phlwyfolion y rhannau amgylchynol o blwyf Llanllyfni, ac ar adeg agor yr eglwys newydd, y Parch. R. Hughes oedd curad Pen-y-groes. Cyn ei ddyddiau ef, Parch. Hughes arall oedd y curad cyn i hwnnw symud i fod yn reithor Y Bermo.<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 19:18, 25 Mawrth 2021

Llun: Geograph gan Jaggery CC-SA-4.0

Yn wreiddiol, adeilad haearn oedd yr eglwys a wasanaethai bentref Pen-y-groes, a dyma oedd yr Eglwys Crist gychwynnol.

Codwyd yr Eglwys Crist bresennol ym 1890 yn lle'r hen adeilad haearn sinc. Gwaith y pensaer eglwysig Henry Kennedy ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.[1] Rhoddwyd y safle'n wreiddiol gan berchnogion Ystad Bryncir, sef Teulu Huddart. Yr oedd y llechi ar y to'n rhodd gan G.W. Duff-Assheton-Smith, Ystad y Faenol.[2] Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Puleston 16 Awst 1890, a gwnaeth ei gŵr, Syr John Puleston, AS annerch y gynulleidfa. Bu Côr yr Eglwys yn canu, i gyfeiliant Band Pres Pen-y-groes.[3] Nid yw'n glir pam y cafodd Puleston ei ddewis i wneud hyn, heblaw am y ffaith ei fod yn Gymro, yn amlwg gyda'r Eisteddfod ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Geidwadwr a fyddai'n gwrthwynebu Lloyd George yn yr etholiad nesaf![4] Gwadodd Puleston mai am resymau gwleidyddol yr oedd yn annerch y dorf, ond yn hytrach, meddai, yr oedd yn ymhyfrydu mewn cael cymryd rhan mewn digwyddiad anwleidyddol. Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes cyn cymud at safle'r eglwys gerllaw. Ymysg y dorf niferus yr oedd un o brif noddwyr yr adeiladu, John Robinson, Plas Tal-y-sarn.[5]

Cost y gwaith o godi'r eglwys oedd oddeutu £1400, ac yr oedd tua £1050 mewn llaw cyn cychwyn ar y gwaith. Mae lle yn yr eglwys i 320 o bobl.[6]

Hon yw'r ail eglwys ym mhlwyf Llanllyfni, a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o Neuadd Goffa Pen-y-groes.[7] Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at yr holl dai newydd oedd yn cael eu codi ym Mhen-y-groes nag eglwys Llanllyfni. Gwasanaethai curad plwyf Llanllyfni gynulleidfa Eglwys Crist a phlwyfolion y rhannau amgylchynol o blwyf Llanllyfni, ac ar adeg agor yr eglwys newydd, y Parch. R. Hughes oedd curad Pen-y-groes. Cyn ei ddyddiau ef, Parch. Hughes arall oedd y curad cyn i hwnnw symud i fod yn reithor Y Bermo.[8]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon & Denbigh Herald, 9 Mai 1890, t.6
  2. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2
  3. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2
  4. Y Bywgraffiadur Ar-lein, [1], cyrchwyd 25.3.2021
  5. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2
  6. North Wales Chronicle, 23 Awst 1890, t.6
  7. Gwefan Coflein, [2],cyrchwyd 24.3.2021
  8. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2