Ysgol Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ysgol gynradd pentref [[Trefor]] wrth droed [[Yr Eifl]] a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878. | Ysgol gynradd pentref [[Trefor]] wrth droed [[Yr Eifl]] a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.<ref>Jones, Geraint ''Rhen Sgwl - Canmlwyddiant Ysgol Trefor 1978.'' (Llyfrau Bro'r Eifl Trefor, 1978) t. 17</ref> | ||
Perchnogion yr ysgol oedd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, [[Chwarel yr Eifl]] ar fynydd [[Garnfor]], y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd [[John Evan Williams]], brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, [[Winifred Williams]], yn wreiddiol o'r un ardal. | Perchnogion yr ysgol oedd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, [[Chwarel yr Eifl]] ar fynydd [[Garnfor]], y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd [[John Evan Williams]], brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, [[Winifred Williams]], yn wreiddiol o'r un ardal. |
Fersiwn yn ôl 09:11, 21 Chwefror 2021
Ysgol gynradd pentref Trefor wrth droed Yr Eifl a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.[1]
Perchnogion yr ysgol oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, Chwarel yr Eifl ar fynydd Garnfor, y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd John Evan Williams, brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, Winifred Williams, yn wreiddiol o'r un ardal.
Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith.
Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd Benjamin Owen Jones, brodor o Fethesda oedd yn brifathro ysgol Dwyran ym Môn. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymddeoliad yn haf 1913.
Prifathrawon ers hynnyGwall cyfeirio: Tag <ref>
annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun oedd
Robert Lloyd Jones (1913-28), yr awdur enwog;
Morris William Jones (1928-46),
Thomas Elias Parry (1946-67),
Harold Parry Jones (1967-1978),
Geraint Jones (1978-1997),
Cai Larsen (1997- 2016),
Llion Huws (2017 -
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Geraint Rhen Sgwl - Canmlwyddiant Ysgol Trefor 1978. (Llyfrau Bro'r Eifl Trefor, 1978) t. 17