William Charles Wynn, 4ydd Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Mewn canlyniad i natur ei etifeddiaeth, mi wnaeth ei gartref yn Ffestiniog ac mae o wedi claddu yno mewn claddfa breifat. Bu'n farw'n ifanc, ac yn ddi-blant, wedi iddo ddal oerfel ar y Ffrynt Gorllewinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lle y gwasanaethodd fel Liwtenant yn y Gwarchodlu Cymreig.

Fe'i ddilynwyd gan ei frawd iau, <ref>Gwefan ''Cracroft's Peerage'', [http://www.cracroftspeerage.co.uk/newborough1776.htm], cyrchwyd 18.2.2021</ref>
Fe'i ddilynwyd gan ei frawd iau, [[Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough|Thomas John Wynn]], (1878-1957).<ref>Gwefan ''Cracroft's Peerage'', [http://www.cracroftspeerage.co.uk/newborough1776.htm], cyrchwyd 18.2.2021</ref>

Fersiwn yn ôl 12:53, 19 Chwefror 2021

Bi i William Charles Wynn (1873-1916) etifeddu'r teitl "Arglwydd Newborough" ar farwolaeth ei daid, y 3ydd Arglwydd ym 1888. Ei dad oedd yr Anrhydeddus Thomas John Wynn (1840-1878), mab hynaf y y 3ydd Arglwydd Newborough; ond bu hwnnw farw o flaen ei dad (a fywiodd nes ei fod yn 85 oed). Roedd ei fam, Sybil Anna Catherine Corbett (1854-1911), yn ferch i ddiplomydd Prydeinig, ac fe'i ganed yn Washington DC.

Ni chafodd Ystad Glynllifon fel etifeddiaeth, heblaw am ychydig o dir ym Mlaenau Ffestiniog ond yn y fan honno yr oedd gwir werth yr ystad erbyn i'w daid farw ym 1888, gan mai yno yr oedd dwy o chwareli llechi mwyaf y Blaenau, a'r cwbl oedd perchennog y chwareli wneud oedd eu gosod ac wedyn derbyn breindaf o hyn a hyn y dunnell o bopeth a gynhyrchid heb orfod gofidio am problemau a threuliau rhedeg ystâd wledig arferol.

Mi briododd Grace Carr, Americanes o Kentucky, ym 1900. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych, 1903.

Mewn canlyniad i natur ei etifeddiaeth, mi wnaeth ei gartref yn Ffestiniog ac mae o wedi claddu yno mewn claddfa breifat. Bu'n farw'n ifanc, ac yn ddi-blant, wedi iddo ddal oerfel ar y Ffrynt Gorllewinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lle y gwasanaethodd fel Liwtenant yn y Gwarchodlu Cymreig.

Fe'i ddilynwyd gan ei frawd iau, Thomas John Wynn, (1878-1957).[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cracroft's Peerage, [1], cyrchwyd 18.2.2021